Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Pasg?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am y Pasg?

Ateb y Beibl

 Dydy’r Pasg cyfoes ddim wedi ei seilio ar y Beibl. Os tyrchwch i’w gefndir, fe welwch wir ystyr y Pasg, sef traddodiad wedi ei seilio ar hen ddefodau ffrwythlondeb. Ystyriwch y canlynol.

  1.   Enw: Ynglŷn â’r enw Saesneg am y Pasg, esbonia Llusern y Llan: “Yn ôl yr Hybarch Bede (yr hwn a fu farw O.C. 735), gelwir y dydd yma yn Easter ar ôl duwies o’r enw Eostre neu Ostra, yr hon a addolid gan y paganiaid Sacsonaidd y tymor hwn o’r flwyddyn.” Mae eraill yn ei gysylltu ag Astarte, duwies ffrwythlondeb y Phoeniciaid a oedd yn cyfateb i Ishtar y Babiloniaid.

  2.   Ysgyfarnogod, cwningod: Mae’r rhain yn symbolau ffrwythlondeb “sy’n tarddu o hen ddefodau a symboliaeth y gwyliau paganaidd gynt a ddathlid yn y gwanwyn yn Ewrop a’r Dwyrain Canol.”​—Encyclopædia Britannica.

  3.   Wyau: Ynghylch y ddefod o gardota wyau ddydd Llun cyn y Pasg, dywed Rhiannon Ifans yn ei llyfr Sêrs a Rybana fod gan yr wy “arwyddocâd ffrwythlonol er dyddiau cynnar iawn ac yn arbennig felly ym myd adenedigaeth a dychweliad i fywyd.” Credai rhai diwylliannau fod yr wy Pasg wedi ei addurno yn gallu “dod â hapusrwydd, ffyniant, iechyd, ac amddiffyniad.”—Traditional Festivals.

  4.   Gwisg newydd y Pasg: “Ystyrid hi’n anghwrtais ac felly’n anlwcus i gyfarch Eastre, duwies Sgandinafaidd y Gwanwyn mewn unrhyw beth ond gwisg newydd.”—The Giant Book of Superstitions.

  5.   Gwasanaethau’r wawr: Mae’r rhain wedi cael eu cysylltu â defodau addolwyr haul yr oes a fu, defodau “a ddathlid adeg cyhydnos y gwanwyn i groesawu’r haul a’i rym mawr i ddod â bywyd newydd i bopeth sy’n tyfu.”—Celebrations—The Complete Book of American Holidays.

 Mae’r llyfr The American Book of Days yn gywir i ddisgrifio tarddiad y Pasg fel hyn: “Does dim amheuaeth bod yr Eglwys yn ei dyddiau cynnar wedi mabwysiadu hen arferion paganaidd a rhoi ystyr Cristnogol iddyn nhw.”

 Rhybuddia’r Beibl yn erbyn addoli Duw drwy ddilyn traddodiadau neu arferion sy’n ei ddigio. (Marc 7:6-8) Dywed Ail Corinthiaid 6:17: “Felly mae’r Arglwydd yn dweud, ‘Dewch allan o’u canol nhw a bod yn wahanol.’ ‘Peidiwch cyffwrdd dim byd aflan, a chewch eich derbyn gen i.’” Mae’r Pasg yn ŵyl baganaidd bydd y rhai sydd eisiau plesio Duw yn ei osgoi.