Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Arwyddion y “Dyddiau Diwethaf” neu’r “Cyfnod Olaf”?

Beth Yw Arwyddion y “Dyddiau Diwethaf” neu’r “Cyfnod Olaf”?

Ateb y Beibl

 Mae’r Beibl yn disgrifio digwyddiadau, amgylchiadau, ac agweddau a fyddai’n dynodi “diwedd y byd” neu fod “yr oes hon yn dod i ben.” (Mathew 24:3; Y Ffordd Newydd) Enw’r Beibl am y cyfnod hwn yw’r “dyddiau diwethaf,” “y cyfnod olaf,” neu “y diwedd.”—2 Timotheus 3:1, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig; Daniel 8: 19.

Beth yw rhai proffwydoliaethau Beiblaidd am y “dyddiau diwethaf”?

 Rhagfynegodd y Beibl lawer o bethau a fyddai gyda’i gilydd yn “arwydd” o’r dyddiau diwethaf. (Luc 21:7) Ystyriwch rai enghreifftiau:

 Rhyfel ar raddfa fawr. Rhagfynegodd Iesu: “Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd.” (Mathew 24:7) Yn debyg i hyn, rhagfynegodd Datguddiad 6:4 y byddai marchog symbolaidd sy’n cynrychioli rhyfela yn dod “i gymryd heddwch o’r byd.”

 Newyn. Rhagfynegodd Iesu: “Bydd newyn mewn gwahanol leoedd.” (Mathew 24:7) Rhagfynegodd llyfr Datguddiad marchog symbolaidd arall, byddai ei bresenoldeb yn golygu newyn ar raddfa fawr.—Datguddiad 6:5, 6.

 Daeargrynfeydd mawr. Dywedodd Iesu y byddai “daeargrynfeydd mawr . . . mewn gwahanol leoedd” (Luc 21:11; Mathew 24:7) Byddai’r daeargrynfeydd mawr hyn o gwmpas y byd yn achosi dioddefaint a marwolaeth ar raddfa fwy na welwyd erioed o’r blaen.

 Heintiau. Yn ôl Iesu, fe fyddai ’na blâu, neu epidemigau o “heintiau” ofnadwy.—Luc 21:11.

 Troseddu. Er bod pobl wedi bod yn troseddu ers canrifoedd, rhagfynegodd Iesu y byddai “mwy a mwy o droseddu.”—Mathew 24:12.

 Difetha’r ddaear. Rhagfynegodd Datguddiad 11:18, Beibl Cysegr-lân y byddai dynolryw yn “difetha’r ddaear.” Bydden nhw’n gwneud hynny mewn llawer o ffyrdd, nid yn unig drwy ymddygiad treisgar a llygredig ond hefyd drwy ddifetha’r amgylchedd.

 Agweddau pobl yn gwaethygu. Yn 2 Timotheus 3:1-4, rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl yn gyffredinol “yn anniolchgar ac yn annuwiol, . . . yn amharod i faddau, yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd, ac yn casáu daioni. Yn bradychu eraill, yn poeni dim am neb, ac yn llawn ohonyn nhw’u hunain.” Byddai’r agweddau hyn yn cyrraedd pwynt mor eithafol nes gallai’r cyfnod hwnnw gael ei ddisgrifio fel “adegau ofnadwy o anodd.”

 Teuluoedd yn chwalu. Yn 2 Timotheus 3:2, 3, rhagfynegodd y Beibl y byddai llawer o bobl “yn ddiserch” tuag at eu teulu ac y byddai plant yn “anufudd i’w rhieni.”

 Cariad tuag at Dduw yn oeri. Rhagfynegodd Iesu: “Bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri.” (Mathew 24:12) Roedd Iesu’n golygu y byddai cariad y rhan fwyaf yn oeri tuag at Dduw. Yn debyg i hyn, mae 2 Timotheus 3:4 yn dweud y byddai “pobl yn caru pleser yn lle caru Duw.”

 Rhagrith crefyddol. Yn 2 Timotheus 3:5, rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl yn ymddangos yn dduwiol, ond fydden nhw ddim wir yn byw yn ôl safonau Duw.

 Gwell ddealltwriaeth o broffwydoliaethau’r Beibl. Rhagfynegodd llyfr Daniel y byddai yn “amser y diwedd,” lawer a fyddai’n cynyddu eu gwybodaeth o wirionedd y Beibl, gan gynnwys dealltwriaeth gywir o’r proffwydoliaethau hyn.—Daniel 12:4, troednodyn yn y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig a’r Beibl Canllaw.

 Gwaith pregethu byd-eang. Rhagfynegodd Iesu: “Bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy’r byd i gyd”.—Mathew 24:14.

 Difaterwch ac agwedd wawdlyd. Rhagfynegodd Iesu y byddai pobl yn gyffredinol yn anwybyddu’r dystiolaeth glir bod y diwedd yn agosáu. (Mathew 24:37-39) Ymhellach i hynny, rhagfynegodd 2 Pedr 3:3, 4 y byddai rhai yn gwawdio’r dystiolaeth a’i wfftio’n llwyr.

 Pob proffwydoliaeth yn cael ei chyflawni. Dywedodd Iesu y byddai’r dyddiau diwethaf yn cael eu hadnabod nid gan gyflawniad rhai o’r proffwydoliaethau hyn yn unig, na hyd yn oed gan y rhan fwyaf ohonyn nhw, ond gan bob un ar yr un pryd.—Mathew 24:33.

Ydyn ni’n byw yn y “dyddiau diwethaf”?

 Ydyn. Mae cyflwr y byd yn ogystal â chronoleg y Beibl yn dangos bod y dyddiau diwethaf wedi dechrau ym 1914, y flwyddyn dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. I weld sut mae cyflwr y byd yn dangos ein bod ni’n byw yn y dyddiau diwethaf, gwyliwch y fideo canlynol:

 Ym 1914, dechreuodd Teyrnas Dduw lywodraethu yn y nefoedd. Un o’r pethau cyntaf iddi ei wneud oedd bwrw Satan y Diafol a’r cythreuliaid allan o’r nefoedd a chyfyngu eu dylanwad i’r ddaear. (Datguddiad 12:7-12) Gallwn weld ddylanwad Satan ar ddynolryw yn yr agweddau a’r ymddygiad drwg sy’n gwneud y dyddiau diwethaf hyn mor “ofnadwy o anodd.”—2 Timotheus 3:1.

 Mae’r amserau anodd rydyn ni’n byw ynddyn nhw yn peri gofid i lawer o bobl. Maen nhw’n pryderu bod cymdeithas yn dirywio. Mae rhai hyd yn oed yn ofni y bydd bodau dynol yn dinistrio ei gilydd yn llwyr.

 Ond ar yr un pryd, mae eraill sydd hefyd yn poeni am gyflwr y byd yn obeithiol am y dyfodol. Maen nhw’n gwbl sicr y bydd Teyrnas Dduw yn gweithredu’n fuan i gael gwared ar broblemau’r byd. (Daniel 2:44; Datguddiad 21:3, 4) Maen nhw’n aros yn amyneddgar i Dduw gyflawni ei addewidion, ac maen nhw’n cael cysur yng ngeiriau Iesu: “Bydd yr un sy’n sefyll yn gadarn i’r diwedd un yn cael ei achub.”—Mathew 24:13; Micha 7:7.