Neidio i'r cynnwys

Ai Duw Sydd ar Fai am Ein Dioddefaint?

Ai Duw Sydd ar Fai am Ein Dioddefaint?

Ateb y Beibl

 “Nac ydy yn bendant!” meddai’r Beibl. Doedd dioddefaint ddim yn rhan o fwriad Jehofa Dduw ar gyfer y ddynoliaeth. Ond, fe wrthryfelodd y cwpl dynol cyntaf yn erbyn rheolaeth Duw, gan benderfynu gosod eu safonau eu hunain o’r hyn sy’n ddrwg a da. Fe wnaethon nhw gefnu ar Dduw a thalu amdani.

 Heddiw ni sy’n profi sgileffeithiau eu dewis drwg. Ond ni allwn ddweud mewn unrhyw ffordd fod Duw yn ffynhonnell dioddefaint dynion.

 Dywed y Beibl: “A ddylai neb ddweud pan mae’n cael ei brofi, ‘Duw sy’n fy nhemtio i.’ Dydy Duw ddim yn cael ei demtio gan ddrygioni, a dydy e ddim yn temtio neb arall chwaith.” (Iago 1:13) Gall dioddefaint daro unrhyw un—hyd yn oed y rhai sy’n plesio Duw.