Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Erthylu?

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Erthylu?

Ateb y Beibl

 Nid yw’r Beibl yn defnyddio’r gair “erthylu” i olygu peri i ffetws dynol gael ei eni’n rhy gynnar i fedru byw. Sut bynnag, mae nifer o adnodau yn y Beibl yn dangos beth yw agwedd Duw tuag at fywyd dynol, gan gynnwys bywyd plentyn heb ei eni.

 Mae bywyd yn rhodd gan Dduw. (Genesis 9:6; Salm 36:9) Mae pob bywyd yn werthfawr yng ngolwg Duw, ac mae hynny’n cynnwys bywyd plentyn yn y groth. Os yw rhywun yn lladd plentyn heb ei eni, a hynny’n fwriadol, mae’r un fath â llofruddio.

 Dywedodd Cyfraith Duw i’r Israeliaid: “Os bydd dynion yn ymladd ac yn anafu gwraig feichiog, a hithau’n rhoi genedigaeth cyn ei hamser, ond na fydd neb yn colli ei fywyd, rhaid i’r troseddwr dalu unrhyw iawndal y mae gŵr y wraig yn ei hawlio drwy’r barnwyr. Ond os bydd rhywun yn colli ei fywyd rhaid i chi roi bywyd am fywyd.”—Exodus 21:22, 23, New World Translation. a

 Pryd mae bywyd dynol yn dechrau?

 Yng ngolwg Duw, mae bywyd dynol yn dechrau ar adeg ei genhedlu. Yng Ngair Duw, y Beibl, ceir darlun cyson o’r plentyn yn y groth fel unigolyn. Ystyriwch rai enghreifftiau sy’n dangos nad yw Duw yn gwahaniaethu rhwng bywyd plentyn yn y groth ac un sydd wedi ei eni.

  •   O dan ddylanwad yr ysbryd glân, dywedodd y Brenin Dafydd wrth Dduw: “Roeddet ti’n fy ngweld i cyn bod siâp arna i.” (Salm 139:16) Yng ngolwg Duw, roedd Dafydd yn unigolyn hyd yn oed cyn iddo gael ei eni.

  •   Roedd Duw yn gwybod bod bwriad arbennig ganddo ar gyfer y proffwyd Jeremeia cyn i Jeremeia gael ei eni. Dywedodd Duw wrtho: “Rôn i’n dy nabod di cyn i mi dy siapio di yn y groth, ac wedi dy ddewis di cyn i ti gael dy eni, a dy benodi di’n broffwyd i siarad â gwledydd y byd.”—Jeremeia 1:5.

  •   Roedd Luc, a ysgrifennodd ddau lyfr yn y Beibl, yn feddyg. Defnyddiodd ef yr un gair Groeg ar gyfer plentyn yn y groth a phlentyn newydd ei eni.—Luc 1:41; 2:12, 16.

 A fydd Duw yn maddau i rywun sydd wedi cael erthyliad?

 Mae maddeuant Duw ar gael i’r rhai sydd wedi cael erthyliad. Os ydyn ni bellach yn derbyn safbwynt Duw tuag at fywyd, nid oes angen i euogrwydd ein llethu. “Mae’r ARGLWYDD mor drugarog a charedig . . . Mor bell ag y mae’r dwyrain o’r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.” (Salm 103:8-12) Bydd Jehofa yn maddau i bawb sy’n edifarhau am bechodau’r gorffennol, ac mae hynny’n cynnwys y rhai sydd wedi cael erthyliad. bSalm 86:5.

 A yw’n iawn cael erthyliad os yw bywyd y fam neu’r plentyn yn y fantol?

 Yng ngoleuni’r hyn mae’r Beibl yn ei ddweud am fywyd plentyn heb ei eni, nid yw’r posibilrwydd fod peryg i iechyd y fam neu’r plentyn yn ddigon i gyfiawnhau cael erthyliad.

 Beth am yr achosion prin lle mae argyfwng yn gorfodi rhywun i ddewis rhwng achub bywyd y fam, neu achub y plentyn? Yn yr achosion hynny, bydd rhaid i’r unigolion wneud penderfyniad personol ynglŷn â pha fywyd y dylid ceisio ei achub.

a Mae rhai cyfieithiadau’n gwneud iddi ymddangos mai’r hyn a ddigwyddodd i’r wraig, nid y ffetws, oedd y peth pwysig yn y ddeddf hon i Israel. Sut bynnag, mae’r testun Hebraeg yn cyfeirio at farwolaeth y fam neu’r plentyn.

b Mae’r Beibl yn datgelu mai Jehofa yw enw Duw.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.