Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Beibl yn Gofnod o Feddyliau Duw?

Ydy’r Beibl yn Gofnod o Feddyliau Duw?

Ateb y Beibl

 Dywed llawer o ysgrifenwyr y Beibl fod Duw wedi dweud wrthyn nhw beth i’w ysgrifennu. Sylwch ar yr enghreifftiau hyn:

  •  Y Brenin Dafydd: “Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD yn siarad trwof fi; ei neges e oeddwn i’n ei rhannu.”—2 Samuel 23:1, 2.

  •  Y proffwyd Eseia: “Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud.”—Eseia 22:15.

  •  Yr apostol Ioan: “Dyma ddangosodd y Meseia Iesu am beth sy’n mynd i ddigwydd yn fuan. Duw ddangosodd hyn iddo.”—Datguddiad 1:1.