Neidio i'r cynnwys

Sut i Weddïo​—Ai Gweddi’r Arglwydd Yw’r Ffordd Orau i Weddïo?

Sut i Weddïo​—Ai Gweddi’r Arglwydd Yw’r Ffordd Orau i Weddïo?

Ateb y Beibl

 Mae Gweddi’r Arglwydd yn rhoi arweiniad ar sut dylen ni weddïo, ac am beth dylen ni weddïo. Mae gweddi Iesu yn ymateb i gais ei ddisgyblion: “Arglwydd, dysgodd Ioan ei ddisgyblion i weddïo, felly dysga di ni.” (Luc 11:1) Ond nid Gweddi’r Arglwydd, neu’r Pader, yw’r unig weddi y mae Duw yn ei derbyn. a Yn hytrach, rhoddodd Iesu’r weddi honno yn batrwm ar gyfer gweddïau y mae Duw yn gwrando arnyn nhw.

Yn yr erthygl hon

 Beth mae Gweddi’r Arglwydd yn ei ddweud?

 Mae Gweddi’r Arglwydd, sydd wedi ei chofnodi ym Mathew 6:9-13, wedi ei geirio’n wahanol mewn gwahanol gyfieithiadau o’r Beibl. Dyma ddwy enghraifft.

 beibl.net: “Ein Tad sydd yn y nefoedd, dŷn ni eisiau i dy enw di gael ei anrhydeddu. Dŷn ni eisiau i ti ddod i deyrnasu, ac i’r cwbl sy’n dda yn dy olwg di ddigwydd yma ar y ddaear fel mae’n digwydd yn y nefoedd. Rho i ni ddigon o fwyd i’n cadw ni’n fyw am heddiw. Maddau i ni am bob dyled i ti yn union fel dŷn ni’n maddau i’r rhai sydd mewn dyled i ni. Cadw ni rhag syrthio pan fyddwn ni’n cael ein profi, ac achub ni o afael y drwg.”

 Beibl Cysegr-lân: “Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw. Deled dy deyrnas. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd. Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol. A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg.” b

 Beth yw ystyr Gweddi’r Arglwydd?

 Gan fod dysgeidiaethau Iesu’n cytuno â gweddill yr Ysgrythurau, gallwn ni ddisgwyl i rannau eraill o’r Beibl ein helpu ni i ddeall ystyr Gweddi’r Arglwydd.

Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd

 Mae’n briodol cyfeirio at Dduw fel “ein Tad” am ei fod wedi ein creu a rhoi bywyd inni.—Eseia 64:8.

“Sancteiddier dy enw”

 Dylai enw Duw, Jehofa, gael ei anrhydeddu a’i ystyried yn sanctaidd neu’n gysegredig. Rydyn ni’n sancteiddio enw Duw drwy siarad am ei rinweddau a dweud wrth eraill am ei fwriadau.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân; Eseia 6:3.

“Deled dy deyrnas”

 Llywodraeth nefol yw Teyrnas Dduw, gyda Iesu’n Frenin arni. Dysgodd Iesu inni weddïo am i’r llywodraeth hon ddod i reoli dros y ddaear i gyd.—Daniel 2:44; Datguddiad 11:15.

“Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd”

 Yn union fel nad oes drygioni na marwolaeth yn y nef, dymuniad Duw yw i bobl fyw ar y ddaear mewn heddwch a diogelwch am byth.—Salm 37:11, 29, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

“Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol”

 Yn adeg Iesu, bara oedd prif fwyd y bobl. Dylen ni gofio ein bod ni’n dibynnu ar ein Creawdwr i ddarparu’r pethau sydd eu hangen arnon ni i gael byw.—Actau 17:24, 25.

“A maddau i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.”

 Yn y cyd-destun hwn, mae’r gair “dyledion” yn air arall am bechodau. (Luc 11:4) Mae pawb yn pechu ac angen maddeuant. Ond os ydyn ni eisiau i Dduw faddau i ni, mae’n rhaid i ni fod yn fodlon maddau i eraill sy’n pechu yn ein herbyn ni.—Mathew 6:14, 15.

“Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwared ni rhag drwg”

 Dydy Jehofa Dduw byth yn ein temtio ni i wneud rhywbeth anghywir. (Iago 1:13) Ond rydyn ni’n cael ein temtio gan “yr un drwg,” Satan y Diafol, sydd hefyd yn cael ei gyfeirio ato fel “y temtiwr.” (1 Ioan 5:19; Mathew 4:1-4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Gofynnwn i Jehofa ein helpu ni i aros yn ufudd iddo pan gawn ni ein temtio i wneud pethau drwg.

 Ai adrodd Gweddi’r Arglwydd yw’r unig ffordd i weddïo?

 Rhoddodd Iesu Weddi’r Arglwydd fel esiampl. Dydy hi ddim i fod i gael ei hadrodd air am air. Yn union cyn iddo roi Gweddi’r Arglwydd, rhybuddiodd Iesu: “A phan fyddwch chi’n gweddïo, peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd,” sef ailadrodd yr un pethau drosodd a throsodd. (Mathew 6:7) Pan roddodd Iesu weddi enghreifftiol ar achlysur arall, defnyddiodd eiriau gwahanol.—Luc 11:2-4.

 Y ffordd orau i weddïo yw dweud wrth Dduw yn ddiffuant yr hyn sydd ar ein meddyliau.—Salm 62:8.

 Sut dylen ni weddïo?

 Mae Gweddi’r Arglwydd yn esiampl dda o sut i weddïo mewn ffordd sydd yn dderbyniol i Dduw. Sylwch sut mae’n cytuno ag adnodau eraill o’r Beibl sy’n sôn am weddi.

  •   Gweddïwch ar Dduw yn unig

     Adnod: “Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.”—Philipiaid 4:6.

     Ystyr: Dylen ni weddïo ar Dduw—nid ar Iesu, Mair, neu seintiau. Mae geiriau agoriadol Gweddi’r Arglwydd, “Ein Tad,” yn ein dysgu ni i weddïo ar Jehofa Dduw yn unig.

  •   Gweddïwch am bethau sydd yn unol ag ewyllys Duw

     Adnod: “Mae e’n gwrando arnon ni os byddwn ni’n gofyn am unrhyw beth sy’n gyson â’i fwriad e.”—1 Ioan 5:14.

     Ystyr: Gallwn weddïo am unrhyw beth sydd yn unol ag ewyllys Duw. Dangosodd Iesu pa mor bwysig yw ewyllys Duw drwy gynnwys yr ymadrodd “Gwneler dy ewyllys” yng Ngweddi’r Arglwydd. Gallwn ni ddysgu am ewyllys Duw ar gyfer y ddaear a’r ddynolryw drwy astudio’r Beibl.

  •   Gweddïwch am eich pryderon personol

     Adnod: “Rho dy feichiau trwm i’r ARGLWYDD; bydd e’n edrych ar dy ôl di.”—Salm 55:22.

     Ystyr: Mae ein hanghenion o ddiddordeb i Dduw. Gweddïodd Iesu am sawl peth personol yng Ngweddi’r Arglwydd, a gallwn ninnau weddïo am ein hanghenion bob dydd, am arweiniad wrth wneud penderfyniadau pwysig, am gefnogaeth ar adegau anodd, ac am faddeuant am ein pechodau. c

a Er enghraifft, mewn gweddïau eraill fe wnaeth Iesu a’i ddisgyblion ddefnyddio geiriau gwahanol i’r rhai yn y weddi enghreifftiol.—Luc 23:34; Philipiaid 1:9.

b Mae’r Beibl Cysegr-lân yn cloi Gweddi’r Arglwydd gyda’r geiriau: “Canys eiddot ti yw’r deyrnas, a’r nerth, a’r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.” Y term ar gyfer ymadrodd fel hwn yw mawlgan neu fawlwers, ac mae hefyd i’w weld mewn Beiblau eraill. Mae Esboniad Barnes ar y Testament Newydd yn dweud: “Mae’n briodol sylwi fod y fawlwers hon . . . yn eisiau mewn llawer o’r llawysgrifau, a bod ei hawdurdod yn amheus.”

c Gall rhai sydd eisiau maddeuant Duw deimlo’n rhy euog i weddïo. Ond mae Jehofa yn dweud: “Gadewch i ni ddeall ein gilydd.” (Eseia 1:18) Ni fydd yn gwrthod neb sy’n gofyn yn ddiffuant am faddeuant.