Neidio i'r cynnwys

Ydy’r Beibl Wedi Cael ei Newid Neu ei Addasu?

Ydy’r Beibl Wedi Cael ei Newid Neu ei Addasu?

 Nac ydy. Mae cymhariaeth o lawysgrifau hynafol yn dangos bod y Beibl heb newid llawer o gwbl er iddo gael ei ailgopïo dros filoedd o flynyddoedd ar ddeunydd sy’n dirywio dros amser.

Ydy hyn yn golygu na chafodd yr un camgymeriad ei wneud wrth ei gopïo?

 Mae miloedd o lawysgrifau Beiblaidd hynafol wedi cael eu darganfod. Mae ’na nifer o wahaniaethau rhwng rhai o’r rhain, sy’n dangos bod camgymeriadau wedi cael eu gwneud wrth gopïo. Mae’r rhan fwyaf o’r gwahaniaethau hyn yn fach, a dydyn nhw ddim yn newid ystyr y testun. Ond, mae ’na rai gwahaniaethau arwyddocaol wedi cael eu darganfod hefyd, a rhai ohonyn nhw’n ymddangos i fod yn ymdrechion bwriadol i addasu neges y Beibl. Ystyriwch ddwy enghraifft:

  1.   Yn 1 Ioan 5:7, mae rhai cyfieithiadau hŷn o’r Beibl yn cynnwys y geiriau canlynol: “yn y nef; y Tad, y Gair, a’r Ysbryd Glân: a’r tri hyn un ydynt.” Ond, mae llawysgrifau dibynadwy yn cadarnhau nad oedd y geiriau hyn yn y testun gwreiddiol. Cawson nhw eu hychwanegu yn hwyrach ymlaen. a Felly, mae cyfieithiadau modern a dibynadwy o’r Beibl wedi eu hepgor.

  2.   Mae enw personol Duw yn ymddangos filoedd o weithiau mewn llawysgrifau Beiblaidd hynafol. Ond eto, mae llawer o gyfieithiadau o’r Beibl wedi ei ddisodli â theitlau fel “Arglwydd” neu “Dduw.”

Sut gallwn ni fod yn sicr nad oes llawer mwy o gamgymeriadau eto i’w darganfod?

 Erbyn heddiw, mae gymaint o lawysgrifau wedi cael eu darganfod, mae cael hyd i wallau yn haws nag erioed o’r blaen. b Beth mae cymhariaeth o’r dogfennau hyn wedi ei ddatgelu am gywirdeb y Beibl heddiw?

  •   Wrth sôn am yr Ysgrythurau Hebraeg (a elwir yn aml “yr Hen Destament”), dywedodd yr ysgolhaig William H. Green: “Gallwn ni ddweud â sicrwydd nad oes yr un gwaith hynafol arall wedi cael ei drosglwyddo mor gywir.”

  •   Wrth sôn am yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol, neu’r “Testament Newydd,” ysgrifennodd yr ysgolhaig Beiblaidd F. F. Bruce: “Mae ’na lawer mwy o dystiolaeth ar gyfer y Testament Newydd na sydd ar gyfer llawer o ysgrifau gan awduron clasurol, ond eto, does neb yn meiddio cwestiynu cywirdeb yr ysgrifau clasurol hynny.”

  •   Dywedodd un arbenigwr ar lawysgrifau Beiblaidd, Syr Frederic Kenyon, y “gall rhywun afael yn y Beibl cyfan, a dweud heb ofni nac oedi mai Gair Duw sydd yn ei law, wedi ei basio o genhedlaeth i genhedlaeth dros y canrifoedd heb unrhyw newidiadau pwysig.”

Pa resymau eraill sydd ’na dros fod yn hyderus fod y Beibl wedi cael ei drosglwyddo’n gywir?

  •   Gwnaeth copïwyr Iddewig a Christnogol gadw’r hanesion sy’n amlygu’r camgymeriadau difrifol a wnaeth pobl Dduw. c (Numeri 20:12; 2 Samuel 11:2-4; Galatiaid 2:11-14) Yn yr un modd, fe wnaethon nhw gadw adnodau sy’n condemnio anufudd-dod y genedl Iddewig ac sy’n dinoethi gau ddysgeidiaethau dynol. (Hosea 4:2; Malachi 2:8, 9; Mathew 23:8, 9; 1 Ioan 5:21) Trwy gopïo’r hanesion hyn yn gywir, dangosodd y copïwyr eu bod nhw’n ddibynadwy ac yn parchu Gair sanctaidd Duw.

  •   Onid ydy hi’n rhesymol y byddai Duw, a ysbrydolodd y Beibl yn y lle cyntaf, hefyd yn sicrhau ei fod yn cadw ei gywirdeb? d (Eseia 40:8; 1 Pedr 1:24, 25) Wedi’r cwbl, roedd Ef yn bwriadu iddo helpu, nid yn unig pobl o’r gorffennol pell, ond hefyd ninnau heddiw. (1 Corinthiaid 10:11) A dweud y gwir, “cafodd pethau fel yma eu hysgrifennu yn y gorffennol i’n dysgu ni, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ein hannog ni i fod yn amyneddgar wrth edrych ymlaen i’r dyfodol.”—Rhufeiniaid 15:4.

  •   Gwnaeth Iesu a’i ddilynwyr ddyfynnu o gopïau o’r Ysgrythurau Hebraeg heb fynegi unrhyw bryderon ynglŷn â chywirdeb y testunau hynafol hynny.—Luc 4:16-21; Actau 17:1-3.

a Nid yw’r geiriau hyn yn y Codex Sinaiticus, y Codex Alexandrinus, Llawysgrif y Fatican 1209, y Fwlgat Lladin gwreiddiol, y Fersiwn Philoxenaidd-Harcleaidd Syrieg, neu’r Peshitta Syrieg.

b Er enghraifft, mae dros 5,000 o lawysgrifau Groeg o’r Testament Newydd, neu’r Ysgrythurau Groeg Cristnogol, wedi cael eu darganfod.

c Dydy’r Beibl ddim yn portreadu cynrychiolwyr dynol Duw fel pobl berffaith. Mae’n cydnabod yn realistig: “Does neb sydd byth yn pechu!”—1 Brenhinoedd 8:46.

d Mae’r Beibl yn dweud, er na wnaeth Duw ddweud yn union air am air beth i’w ysgrifennu, fe wnaeth ef lywio meddyliau ysgrifenwyr y Beibl.—2 Timotheus 3:16, 17; 2 Pedr 1:21.