Actau’r Apostolion 20:1-38
20 Ar ôl i’r stŵr dawelu, anfonodd Paul am y disgyblion, ac ar ôl iddo eu hannog nhw a dweud ffarwel, dechreuodd ar ei daith i Facedonia.
2 Ar ôl iddo fynd trwy’r ardaloedd hynny ac annog y rhai yno drwy ddweud llawer o eiriau caredig, dyma’n cyrraedd Gwlad Groeg.
3 Treuliodd dri mis yno, ond oherwydd bod yr Iddewon wedi cynllwynio yn ei erbyn pan oedd ar fin hwylio i Syria, penderfynodd fynd yn ôl drwy Facedonia.
4 Yn teithio gydag ef roedd Sopater fab Pyrrhys o Berea, Aristarchus a Secwndus o’r Thesaloniaid, Gaius o Derbe, Timotheus, ac o dalaith Asia, Tychicus a Troffimus.
5 Aeth y dynion hyn yn eu blaenau ac roedden nhw’n disgwyl amdanon ni yn Troas;
6 ond gwnaethon ni hwylio o Philipi ar ôl Gŵyl y Bara Croyw, ac o fewn pum diwrnod daethon ni atyn nhw yn Troas, a threulio saith diwrnod yno.
7 Ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos, pan oedden ni wedi dod at ein gilydd i gael pryd o fwyd, dechreuodd Paul eu hannerch nhw, gan ei fod am adael y diwrnod wedyn; a pharhaodd i siarad tan hanner nos.
8 Felly roedd ’na lawer o lampau yn yr ystafell uchaf lle roedden ni wedi ymgynnull.
9 Roedd ’na ddyn ifanc o’r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenest, a syrthiodd i gwsg dwfn tra oedd Paul yn dal i siarad ac, oherwydd ei fod yn cysgu, disgynnodd o’r trydydd llawr, a phan ddaethon nhw ato, roedd wedi marw.
10 Ond aeth Paul i lawr grisiau, ei daflu ei hun arno a’i gofleidio, a dweud: “Stopiwch gynhyrfu, oherwydd mae’n fyw.”*
11 Yna aeth i fyny grisiau a dechrau bwyta’r pryd o fwyd.* Parhaodd i sgwrsio am gryn dipyn o amser, nes iddi wawrio, ac aeth oddi yno.
12 Felly gwnaethon nhw fynd â’r bachgen i ffwrdd yn fyw a chawson nhw eu cysuro’n fawr iawn.
13 Felly aethon ni yn ein blaenau i’r llong a hwylio i Asos, lle roedden ni’n bwriadu derbyn Paul ar y llong, oherwydd ar ôl iddo roi cyfarwyddiadau ynglŷn â hyn, roedd yn bwriadu cerdded yno.
14 Felly ar ôl iddo ddal i fyny â ni yn Asos, gwnaethon ni ei dderbyn ar y llong a mynd i Mitylene.
15 A hwylion ni i ffwrdd oddi yno y diwrnod wedyn, a chyrraedd gyferbyn â Chios, ond y diwrnod ar ôl hynny, gwnaethon ni stopio am fyr o dro yn Samos, ac ar y diwrnod dilynol, dyma ni’n cyrraedd Miletus.
16 Roedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio Effesus er mwyn peidio â threulio unrhyw amser yn nhalaith Asia, oherwydd roedd yn brysio i gyrraedd Jerwsalem ar ddiwrnod Gŵyl y Pentecost, petai hynny’n bosib.
17 Fodd bynnag, o Miletus anfonodd ef neges i Effesus a galwodd am henuriaid y gynulleidfa.
18 Pan ddaethon nhw ato, dywedodd wrthyn nhw: “Rydych chi’n gwybod yn iawn am sut gwnes i ymddwyn yn eich plith o’r diwrnod cyntaf des i i mewn i dalaith Asia,
19 yn gwasanaethu’r Arglwydd fel caethwas â phob gostyngeiddrwydd ac mewn dagrau a threialon a ddigwyddodd i mi drwy gynllwynion yr Iddewon,
20 ac rydych chi hefyd yn gwybod wnes i ddim dal yn ôl rhag sôn wrthoch chi am unrhyw un o’r pethau a oedd yn fuddiol ichi na rhag eich dysgu chi’n gyhoeddus ac o dŷ i dŷ.
21 Ond fe wnes i dystiolaethu’n drylwyr i Iddewon a Groegiaid am edifarhau a throi at Dduw a chael ffydd yn ein Harglwydd Iesu.
22 Ac nawr edrychwch! rydw i’n mynd i Jerwsalem, yn cael fy arwain gan* yr ysbryd glân, er nad ydw i’n gwybod beth fydd yn digwydd imi yno,
23 heblaw bod yr ysbryd glân o ddinas i ddinas yn tystiolaethu dro ar ôl tro i mi, gan ddweud bod carchar ac erledigaeth yn disgwyl amdana i.
24 Er hynny, dydw i ddim yn ystyried bod fy mywyd o unrhyw werth imi;* y peth pwysig yw fy mod i’n gorffen ras fy mywyd a’r weinidogaeth a ges i gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu’n drylwyr i’r newyddion da am garedigrwydd rhyfeddol Duw.
25 “Ac nawr edrychwch! rydw i’n gwybod na fydd neb ohonoch chi, ymhlith y rhai roeddwn i’n pregethu’r Deyrnas iddyn nhw, yn gweld fy wyneb byth eto.
26 Felly rydw i’n galw arnoch chi heddiw i dystiolaethu fy mod i’n lân oddi wrth waed pob dyn,
27 oherwydd dydw i ddim wedi dal yn ôl rhag mynegi ichi holl gyngor* Duw.
28 Talwch sylw i chi’ch hunain ac i’r holl braidd, oherwydd bod yr ysbryd glân wedi eich penodi chi’n arolygwyr arno, i fugeilio cynulleidfa Duw, y gynulleidfa y gwnaeth ef ei phrynu â gwaed ei Fab ei hun.
29 Rydw i’n gwybod y bydd bleiddiaid ffyrnig* yn dod i mewn i’ch plith ar ôl imi fynd i ffwrdd, ac ni fyddan nhw’n trin y praidd yn dyner,
30 ac o’ch plith eich hunain bydd dynion yn codi ac yn dweud pethau llygredig i ddenu’r disgyblion ar eu holau.
31 “Felly cadwch yn effro, a chofiwch na wnes i byth stopio cynghori pob un ohonoch chi â dagrau, nos a dydd, am dair blynedd.
32 Ac nawr rydw i’n eich rhoi chi yng ngofal Duw ac yng ngofal y neges am ei garedigrwydd rhyfeddol, y neges sy’n gallu eich adeiladu chi a rhoi ichi’r etifeddiaeth sydd am gael ei rhoi i’r holl rai sanctaidd.
33 Dydw i ddim wedi ceisio cael arian nac aur na dillad neb.
34 Rydych chi’ch hunain yn gwybod bod y dwylo yma wedi gofalu am fy anghenion fy hun ac am anghenion y rhai oedd gyda mi.
35 Rydw i wedi dangos ym mhob peth y dylech chi weithio’n galed fel hyn, oherwydd bod rhaid ichi helpu’r rhai sy’n wan a bod rhaid ichi gadw geiriau’r Arglwydd Iesu mewn cof, pan ddywedodd ef ei hun: ‘Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.’”
36 Ac ar ôl iddo ddweud y pethau hyn, aeth ar ei bennau gliniau gyda nhw i gyd a gweddïo.
37 Yn wir, gwnaeth pawb ddechrau beichio crio, a gwnaethon nhw gofleidio Paul a’i gusanu’n gariadus,
38 oherwydd roedden nhw’n pryderu’n fawr iawn am yr hyn a ddywedodd, sef na fydden nhw’n gweld ei wyneb eto. Yna aethon nhw gydag ef at y llong.
Troednodiadau
^ Neu “oherwydd mae ei enaid ynddo.”
^ Llyth., “a thorri’r bara.”
^ Neu “wedi fy nghymell gan.”
^ Neu “o unrhyw bwys imi.”
^ Neu “holl fwriad.”
^ Neu “bleiddiaid gormesol.”