At yr Effesiaid 6:1-24

  • Cyngor i blant a rhieni (1-4)

  • Cyngor i gaethweision a meistri (5-9)

  • Yr holl arfwisg mae Duw’n ei rhoi (10-20)

  • Cyfarchion olaf (21-24)

6  Chi blant, byddwch yn ufudd i’ch rhieni mewn undod â’r Arglwydd, oherwydd bod hyn yn gyfiawn.  “Anrhydedda dy dad a dy fam” yw’r gorchymyn cyntaf gydag addewid:  “Er mwyn i bethau fynd yn dda iti* ac iti gael byw am amser hir ar y ddaear.”  A chi dadau, peidiwch ag achosi i’ch plant wylltio, ond parhewch i’w magu nhw yn nisgyblaeth a hyfforddiant* Jehofa.  Chi gaethweision, byddwch yn ufudd i’ch meistri dynol, gydag ofn a dychryn yn eich calonnau diffuant, fel i’r Crist,  nid yn unig pan fydd eraill yn eich gwylio, er mwyn plesio dynion, ond fel caethweision Crist yn gwneud ewyllys Duw â’ch holl enaid.*  Gwasanaethwch gydag agwedd dda, fel i Jehofa ac nid i ddynion,  oherwydd fel rydych chi’n gwybod, bydd caethweision yn ogystal â dynion rhydd yn derbyn yn ôl gan Jehofa yr holl ddaioni maen nhw’n ei wneud.  Hefyd, chi feistri, cadwch hyn mewn cof wrth ddelio gyda’ch caethweision, heb eu bygwth nhw, oherwydd eich bod chi’n gwybod bod eu Meistr nhw a chithau yn y nefoedd, a does ’na ddim ffafriaeth gydag ef. 10  Yn olaf, parhewch i gael eich cryfhau yn yr Arglwydd ac yng ngrym ei gryfder. 11  Rhowch amdanoch yr holl arfwisg mae Duw’n ei rhoi fel y gallwch chi sefyll yn gadarn yn erbyn gweithredoedd cyfrwys* y Diafol; 12  oherwydd bod gynnon ni frwydr, nid yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn y llywodraethau, yn erbyn yr awdurdodau, yn erbyn rheolwyr y byd tywyll hwn, yn erbyn yr ysbrydion drwg sydd yn y llefydd nefol. 13  Am y rheswm hwn, gwisgwch yr holl arfwisg mae Duw’n ei rhoi, fel y gallwch chi wrthsefyll ymosodiadau yn y dydd drwg ac, ar ôl ichi gyflawni popeth, sefyll yn gadarn. 14  Safwch yn gadarn, felly, â belt y gwir wedi ei glymu yn dynn am eich canol, yn gwisgo arfwisg* cyfiawnder i amddiffyn eich brest, 15  ac yn gwisgo am eich traed esgidiau sy’n barod ar gyfer cyhoeddi’r newyddion da am heddwch. 16  Yn ogystal â hyn i gyd, cariwch darian fawr y ffydd a fydd yn eich helpu chi i allu diffodd holl saethau* tanllyd yr un drwg. 17  Hefyd, derbyniwch helmed achubiaeth, a chleddyf yr ysbryd, hynny yw, gair Duw, 18  wrth ichi barhau i weddïo ar bob achlysur yn unol â’r ysbryd a thrwy ddefnyddio pob math o weddïau ac erfyniadau. Ac i’r diben hwnnw, arhoswch yn effro, gan erfyn yn barhaol dros yr holl rai sanctaidd. 19  Gweddïwch hefyd drosto i, fod y geiriau yn cael eu rhoi imi pan fydda i’n agor fy ngheg, fel y galla i siarad yn ddi-ofn wrth gyhoeddi cyfrinach gysegredig y newyddion da. 20  Rydw i’n llysgennad mewn cadwyni dros y newyddion da, felly gweddïwch y bydda i’n gallu siarad am y newyddion da heb ofn, fel y dylwn i siarad. 21  Nawr er mwyn ichi wybod beth rydw i’n ei wneud a sut rydw i’n cadw, bydd Tychicus, sy’n frawd annwyl ac yn weinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, yn dweud y cwbl wrthoch chi. 22  Rydw i’n ei anfon atoch chi am yr union reswm hwn, er mwyn ichi wybod sut rydyn ni’n cadw ac er mwyn iddo gysuro eich calonnau. 23  Rydw i’n dymuno i’r brodyr gael heddwch a chariad ynghyd â ffydd oddi wrth Dduw y Tad a’r Arglwydd Iesu Grist. 24  Rydw i’n dymuno i garedigrwydd rhyfeddol Duw fod gyda phawb sydd â chariad anllygredig tuag at ein Harglwydd Iesu Grist.

Troednodiadau

Neu “Er mwyn iti ffynnu.”
Neu “a chyfarwyddyd; arweiniad.” Llyth., “a rhoi (ei) feddwl ynddyn (nhw).”
Gweler Geirfa, “Enaid.”
Neu “cynllwynion.”
Neu “dwyfronneg; llurig.”
Neu “holl bicellau; dartiau.”