Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Bendithion Dysgu Iaith Newydd

Bendithion Dysgu Iaith Newydd

Lawrlwytho:

  1. 1. A wyt ti wedi meddwl,

    ‘A yw’n bosib i mi

    Ddysgu iaith wahanol?

    A fedra i symud tŷ?’

    Ar ôl troi at Jehofa,

    Ac ar ôl gosod dy nod,

    Rhaid rhoi dy droed dros y trothwy,

    A pheidio edrych yn ôl.

    (CYTGAN)

    Wrth i ti newid cynefin,

    Rhaid i ti gamu ymlaen.

    Wrth i ti newid cynefin,

    Fe fydd dy ffydd yn cryfhau.

    Newid cynefin. Newid cynefin.

    Bendithion sydd o dy flaen.

  2. 2. Mae’n cymryd ymdrech ac amser,

    Efallai blwyddyn neu ddwy.

    Mae angen gweithio’n galed,

    Ond bydd ’na chwerthin a hwyl.

    A bydd Jehofa yn hapus,

    Bydd dy galon yn llon,

    A byddi di mor falch dy

    Fod ti ’di cychwyn ar y daith newydd hon.

    (CYTGAN)

    Wrth i ti newid cynefin,

    Rhaid i ti gamu ymlaen.

    Wrth i ti newid cynefin,

    Trysor sydd o dy flaen.

    Os wyt ti’n dal i bendroni,

    A dechrau llusgo traed. Na!

    (CYTGAN)

    Paid oedi dim—Dos amdani!

    Bydd cymaint i ti fwynhau.

    Newid cynefin. Newid cynefin.

    Dos ati! Newid cynefin!

    Bendithion sydd o dy flaen!