Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 109

Carwch o Ddyfnder Calon

Carwch o Ddyfnder Calon

(1 Pedr 1:22)

  1. 1. Cariad ydyw prif rinwedd Duw,

    Ie, Jehofa, cariad yw.

    Cynnes, croesawgar, tyner yw,

    Teimlwn ei ofal cu.

    Mae Jehofa yn llawenhau

    Wrth weld ein cariad ni’n dwysáu.

    Ei ofal mwyn a’i gariad hael

    Sy’n ein hysgogi ni.

    Mwy na theimlad ydyw hyn,

    Eiddgar ydym ni i helpu ffrind.

    Gwelwn angen, dirnad clwyf—

    Awn, a chysur rown yn rhwydd.

    Fel Crist Iesu, dangos a wnawn

    Gariad diffuant, dwys, serchfawr.

    Cariad cyfeillgar, clòs, fwynhawn.

    Teimlad clyd a chynnes daw

    O galonnau cariadlawn.