CÂN 11
Mae’r Greadigaeth yn Moli Duw
(Salm 19)
-
1. Mae’r greadigaeth yn dy foli’n fawr,
Mae’n hysbysebu d’allu di-ben-draw.
Heb air na llais, mae’n atsain neges glir:
Tydi yw Duw, Creawdwr gwych ein byd.
Heb air na llais, mae’n atsain neges glir:
Tydi yw Duw, Creawdwr gwych ein byd.
-
2. Drwy d’ofni di, gwybodaeth ddaw i’n llaw,
O’i rhoi ar waith, doethineb gennyt gawn.
Dy gyngor di, mwy gwerthfawr yw nag aur.
Tydi yw Awdur doeth y Sanctaidd Air.
Dy gyngor di, mwy gwerthfawr yw nag aur.
Tydi yw Awdur doeth y Sanctaidd Air.
-
3. D’orchmynion clir sy’n llonni’n calon ni.
Syfrdanol, wir yr, yw dy gariad di.
Adfywio rwyt ein hawydd ni i fyw,
I’th anrhydeddu di, Jehofa Dduw.
Adfywio rwyt ein hawydd ni i fyw,
I’th anrhydeddu di, Jehofa Dduw.
(Gweler hefyd Salm 12:6; 89:7; 144:3; Rhuf. 1:20.)