Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 152

Canolfan Addoli Jehofa

Canolfan Addoli Jehofa

(1 Brenhinoedd 8:27; 1 Cronicl 29:14)

  1. 1. Jehofa, Creawdwr y nefoedd,

    Mae’r ddaear a’r nef yn dy law.

    Rwyt ti’n fwy na’r haul a’r sêr i gyd—

    Mae dy fawredd yn ddi-ben-draw.

    Ble gallwn ni ddod at ein gilydd?

    Ble gallwn ni foli ein Duw?

    Ti yn wir yw ein goleuni ni,

    Ein haddysgwr, ac ein Duw byw.

    (PONT)

    Ddaeth dim byd o’n llaw ni;

    Daeth pob peth o dy ddwylo.

    O Jehofa, derbynia—

    Plîs—yr adeilad hwn.

    (CYTGAN)

    Canolfan addoli Jehofa;

    Lle canu moliannau i Dduw.

    Lle i’r ysbryd glân ein treiddio ni,

    Lle i annog ein gilydd yw.

  2. 2. Jehofa, i ti rhown ein diolch

    Am ddangos y ffordd inni fynd.

    Mae dy bwrpas di mor hael a mawr,

    Y Goruchaf wyt a’n gwir ffrind.

    Addurno’r lle hwn mae dy bobl;

    Pawb yma yn rhoi’r clod i ti.

    Yn unedig, safwn o dy flaen;

    Haeddu rwyt ein haddoliad ni.

    (PONT)

    Mae ’na waith inni wneud;

    Plîs rho inni yr egni.

    Dal yn dynn yn dy law di,

    Camu ymlaen wnawn ni.

    (CYTGAN)

    Canolfan addoli Jehofa;

    Lle canu moliannau i Dduw.

    Lle i’r ysbryd glân ein treiddio ni,

    Lle i annog ein gilydd yw.