Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CÂN 2

Jehofa Yw Dy Enw

Jehofa Yw Dy Enw

(Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân)

  1. 1. Dragwyddol ffyddlon Dduw,

    Gwir Dduw’r holl greadigaeth,

    Duw wyt i bob cenhedlaeth—

    Jehofa ydwyt ti.

    Mae’n fraint cael dod ynghyd

    Yn unfryd gynulleidfa—

    Drwy’r byd i’r cyrion eitha’

    Clodforwn d’enw di.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Jehofa,

    Does dim Duw fel tydi.

    Does neb tebyg ar y ddaear

    Na’th debyg oddi fry.

    Ti yw’n Duw, yr Hollalluog;

    Moliannwn d’enw di.

    Jehofa, Jehofa,

    Ein gwir a’n hunig Dduw wyt ti.

  2. 2. Ein peri rwyt i fod

    Beth bynnag a ddymuni—

    D’ewyllys i’w gyflawni—

    Jehofa Dduw wyt ti.

    Caredig ydyw’r rhodd

    O’th enw gogoneddus;

    Braint hynod anrhydeddus

    Yw dwyn dy enw di.

    (CYTGAN)

    Jehofa, Jehofa,

    Does dim Duw fel tydi.

    Does neb tebyg ar y ddaear

    Na’th debyg oddi fry.

    Ti yw’n Duw, yr Hollalluog;

    Moliannwn d’enw di.

    Jehofa, Jehofa,

    Ein gwir a’n hunig Dduw wyt ti.

(Gweler hefyd 2 Cron. 6:14; Salm 72:19; Esei. 42:8.)