Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

CYFWELIAD | RAJESH KALARIA

Patholegydd yr Ymennydd yn Esbonio ei Ffydd

Patholegydd yr Ymennydd yn Esbonio ei Ffydd

MAE’R Athro Rajesh Kalaria, o Brifysgol Newcastle yn Lloegr, wedi astudio’r ymennydd dynol am fwy na 40 mlynedd. Ar un adeg roedd yn credu mewn esblygiad. Ond mae wedi newid ei feddwl. Yn y cyfweliad hwn, mae’n siarad am ei waith a’i ffydd.

Beth oedd eich cefndir crefyddol?

Cafodd fy nhad ei eni yn India, a fy mam yn Iwganda, er ei bod hithau hefyd o dras Indiaidd. Roedd y teulu yn dilyn y grefydd Hindŵ. Fi yw’r ail fab o dri. Roedden ni’n byw yn Nairobi, Cenia, mewn cymuned lle roedd llawer o Hindŵiaid.

Beth ysgogodd eich diddordeb mewn gwyddoniaeth?

Roedd diddordeb gen i mewn anifeiliaid, ac roeddwn i’n arfer mynd i gampio a cherdded gyda ffrindiau i weld y bywyd gwyllt rhyfeddol. Yn wreiddiol, roeddwn i eisiau bod yn filfeddyg. Ond ar ôl graddio o’r coleg yn Nairobi, fe es i Brydain i astudio patholeg ym Mhrifysgol Llundain. Wedyn, fe es i ymlaen i wneud ymchwil gan arbenigo ym maes yr ymennydd dynol.

A gafodd eich addysg effaith ar eich cred?

Do. Y mwya’n y byd y dysgais am wyddoniaeth, y mwyaf anodd yr oedd hi i gredu mewn mytholeg a thraddodiadau Hindŵ, megis addoli anifeiliaid a delwau.

Pam roeddech chi’n credu mewn esblygiad?

Pan oeddwn i’n ifanc, roedd llawer o’r bobl o’m cwmpas o’r farn mai Affrica oedd man cychwyn esblygiad dynol, ac roedden ni’n trafod hyn yn aml yn yr ysgol. Hefyd, fel myfyrwyr, yr argraff gawson ni yn yr ysgol a’r brifysgol oedd bod gwyddonwyr uchel eu parch i gyd yn credu mewn esblygiad.

Ond fe aethoch chi’n ôl at y cwestiwn o darddiad bywyd. Pam felly?

Roeddwn i wedi astudio bioleg ac anatomeg ers rhai blynyddoedd, pan soniodd un o’m cyd-fyfyrwyr am yr hyn yr oedd yn ei ddysgu am y Beibl oddi wrth Dystion Jehofa. Roeddwn i eisiau gwybod mwy. Felly pan gynhaliodd y Tystion gynulliad yn neuadd y coleg yn Nairobi, fe es i. Yn nes ymlaen, siaradais â dwy genhades a esboniodd rai o ddysgeidiaethau’r Beibl imi. Roedden nhw’n credu yn y Dylunydd Mawr sydd â’r atebion i gwestiynau mawr bywyd. Nid oedd hynny’n swnio fel mytholeg. Roedd y rhesymeg yn apelio ataf.

Oedd eich gwybodaeth feddygol yn ei gwneud hi’n anodd ichi gredu mewn creawdwr?

I’r gwrthwyneb! Wrth imi astudio anatomeg, gwelais pa mor gymhleth yw pethau byw a pha mor dda y maen nhw wedi cael eu dylunio. I mi, doedd hi ddim yn gwneud synnwyr i ddweud mai proses heb ei gyfeirio sy’n gyfrifol am y cymhlethdod hwn.

Allwch chi roi enghraifft?

Rydw i wedi astudio’r ymennydd dynol ers y 1970au cynnar, ac rydw i’n dal i ryfeddu ato. Yr ymennydd yw cartref ein meddyliau a’n cof, a’r ganolfan reoli i lawer o brosesau’r corff. Y mae hefyd yn ganolfan i’n synhwyrau, yn dehongli gwybodaeth o’r tu mewn a’r tu allan.

Mae’r ymennydd yn gweithio fel y mae oherwydd ei gemeg gymhleth a’i rwydweithiau cywrain o niwronau, prif gelloedd yr ymennydd. Mae biliynau o niwronau yn yr ymennydd dynol, ac maen nhw’n cyfathrebu â’i gilydd drwy edefynnau hir a elwir yn acsonau. Gall un niwron wneud miloedd o gysylltiadau â niwronau eraill drwy edefynnau canghennog a elwir yn ddendridau. O ganlyniad, mae cyfanswm y cysylltiadau yn yr ymennydd yn aruthrol. Eto, nid lle anhrefnus yw’r fforest hon o niwronau a dendridau. Mae’r cwbl yn gweithio’n fanwl gywir. Mae’r “weirio” hwn yn gampwaith syfrdanol.

Wnewch chi esbonio mwy?

Wrth i’r babi ddatblygu yn y groth, ac ar ôl ei eni, mae’r broses o weirio’r ymennydd yn symud ymlaen mewn modd eithriadol o drefnus. Mae niwronau yn estyn edefynnau i gyrraedd niwronau eraill sydd efallai gentimetrau i ffwrdd—ar lefel y gell mae hynny’n hynod o bell. Gyda llaw, weithiau mae’r edefyn yn anelu, nid yn unig at gell benodol, ond at ran benodol o’r gell honno.

Wrth i edefyn newydd dyfu o’r niwron ac ymestyn at un arall, y mae’n dilyn arwyddion cemegol sy’n dweud wrtho am “stopio,” “symud,” neu “droi,” nes iddo gyrraedd ei darged. Heb y cyfarwyddiadau eglur hyn, byddai’r edefyn yn mynd ar goll. Mae’r broses gyfan wedi ei threfnu’n wych, gan ddechrau gyda’r cyfarwyddiadau yn ein DNA.

Wedi dweud hynny, rydyn ni’n bell o ddeall sut yn union mae’r ymennydd yn datblygu ac yn gweithio, gan gynnwys sut y mae’n creu atgofion, emosiynau, a meddyliau. I mi, mae’r ffaith fod yr ymennydd yn gweithio—heb sôn am ba mor rhyfeddol y mae’n gweithio ac yn datblygu—yn awgrymu bod meddwl llawer gwell na’n meddwl ni ar waith.

Pam daethoch chi’n un o Dystion Jehofa?

Dangosodd y Tystion dystiolaeth imi fod y Beibl yn Air Duw. Er enghraifft, nid gwerslyfr gwyddoniaeth yw’r Beibl, ond eto wrth grybwyll materion gwyddonol, mae’n gywir bob amser. Y mae hefyd yn cynnwys proffwydoliaethau cywir. Ac mae’n gwella bywydau’r rhai sy’n rhoi ei ddysgeidiaeth ar waith. Rydw i wedi gweld hynny yn fy mywyd fy hun. Ers imi ddod yn un o Dystion Jehofa ym 1973, mae’r Beibl wedi bod yn arweinlyfr imi. Ac o ganlyniad, mae fy mywyd yn hapus ac yn ystyrlon.