Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Dysgu Eich Plentyn am Ryw

Dysgu Eich Plentyn am Ryw

YR HER

Rai degawdau’n ôl, mae’n debyg mai’r rhieni fyddai’r rhai cyntaf i siarad â’u plant am ryw. Ac roedden nhw’n gallu esbonio pethau yn raddol bach yn ôl oed ac anghenion eu plant.

Ond mae’r sefyllfa yn wahanol iawn heddiw. Yn ôl y llyfr The Lolita Effect: “Mae hyd yn oed plant ifanc iawn yn clywed ac yn gweld pethau am ryw, ac mae cynnwys o’r fath yn dod yn fwy cyffredin mewn llyfrau, ffilmiau a rhaglenni i blant.” Ydy hyn yn beth da i blant neu ddim?

BETH DDYLECH CHI EI WYBOD?

Mae sôn am ryw ymhobman. Yn ei llyfr Talk To Me First, mae Deborah Roffman yn dweud: “Mae sgyrsiau, hysbysebion, ffilmiau, llyfrau, caneuon, rhaglenni teledu, negeseuon testun, gemau, posteri, a sgriniau cyfrifiaduron a ffonau mor llawn cynnwys rhywiol nes bod pobl ifanc a phlant yn meddwl mai rhyw ydy’r peth pwysicaf mewn bywyd.”

Mae marchnata yn rhannol gyfrifol. Mae busnesau yn hysbysebu dillad rhywiol i blant, ac mae hyn yn gwneud i blant deimlo bod y ffordd maen nhw’n edrych yn bwysig iawn. Yn ôl y llyfr So Sexy So Soon, “mae pobl busnes yn gwybod bod plant eisiau bod yn boblogaidd ac eisiau bod yn debyg i’w ffrindiau, ac maen nhw’n defnyddio hyn i werthu eu nwyddau.”

Mae angen mwy na gwybodaeth. Mae gwahaniaeth rhwng gwybod sut mae car yn gweithio a bod yn yrrwr da. Mewn ffordd debyg, mae gwahaniaeth rhwng gwybod am ryw a defnyddio’r wybodaeth honno i wneud penderfyniadau doeth.

Y gwir yw: Heddiw, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid ichi helpu eich plant i hyfforddi eu “gallu meddyliol” fel y gallan nhw “wahaniaethu rhwng yr hyn sy’n dda a’r hyn sy’n ddrwg.”­—Hebreaid 5:14.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Siarad â’ch plant. Eich cyfrifoldeb chi yw siarad â’ch plant am ryw, hyd yn oed os yw hynny yn gwneud ichi deimlo’n anghyfforddus.​—Egwyddor o’r Beibl: Diarhebion 22:6.

Cael sgyrsiau byr. Yn lle cael un drafodaeth fawr am ryw, gallwch fanteisio ar gyfleoedd sy’n codi yn ystod y dydd, efallai pan fyddwch chi’n teithio yn y car neu wneud gwaith o gwmpas y tŷ. Gofynnwch gwestiynau er mwyn dysgu beth mae eich plant yn ei feddwl. Er enghraifft, yn lle gofyn, “Wyt ti’n hoffi’r math yna o hysbyseb?” fe allwch chi ofyn, “Pam rwyt ti’n meddwl bod cwmnïau yn defnyddio hysbysebion fel hyn?” Ar ôl i’ch plentyn ateb, gallwch ofyn, “Sut wyt ti’n teimlo am hynny?”​—Egwyddor o’r Beibl: Deuteronomium 6:6, 7.

Addasu yn ôl oedran eich plant. Cyn i blentyn fynd i’r ysgol, gallwch ddysgu iddo’r enwau cywir ar gyfer yr organau rhywiol, yn ogystal â sut i’w amddiffyn ei hun rhag cael eu cam-drin yn rhywiol. Wrth i’ch plant dyfu, gallwch ddysgu ffeithiau sylfaenol am atgenhedlu iddyn nhw. Erbyn iddyn nhw gyrraedd eu harddegau, dylai plant wybod beth ydy rhyw a sut mae Duw’n teimlo amdano.

Dysgu safonau moesol i’ch plant. Dysgwch eich plant, o oedran cynnar, i ddweud y gwir, i wneud beth sy’n iawn, ac i ddangos parch at bobl eraill. Bydd hyn yn gosod sylfaen dda ar gyfer trafod rhyw yn y dyfodol. Hefyd, esboniwch eich safonau moesol i’ch plant. Er enghraifft, os ydych chi’n credu na ddylai pobl gael rhyw cyn priodi, dywedwch hynny yn glir. Yna esboniwch pam rydych chi’n credu hynny. Mae’r llyfr Beyond the Big Talk yn dweud: “Mae pobl ifanc sy’n gwybod bod eu rhieni yn erbyn pobl yn eu harddegau yn cael rhyw, yn llai tebygol o gael rhyw.”

Gosod esiampl dda. Dylech chi fyw eich pregeth. Er enghraifft, a ydych chi’n chwerthin ar jôcs budr, yn gwisgo’n bryfoclyd, neu’n fflyrtio? Os felly, mae’n debyg na fydd eich plant yn gwrando arnoch chi’n sôn am werthoedd moesol.​—Egwyddor o’r Beibl: Rhufeiniaid 2:​21.

Cadw’r sgwrs yn bositif. Rhodd gan Dduw ydy rhyw, ac yn yr amgylchiadau iawn, sef o fewn priodas, gall ddod â phleser mawr. (Diarhebion 5:18, 19). Dywedwch wrth eich plentyn y bydd yn gallu mwynhau’r rhodd honno ar ôl iddo briodi, a hynny heb y problemau a’r poen sy’n dod i’r rhai sy’n cael rhyw cyn priodi.​—1 Timotheus 1:​18, 19.