Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

A Oes Gan Dduw Empathi?

A Oes Gan Dduw Empathi?

BETH MAE’R GREADIGAETH YN EIN DYSGU?

Empathi, yn ôl un diffiniad, ydy’r “gallu i rannu teimladau neu brofiadau rhywun arall drwy ddychmygu bod yn sefyllfa’r unigolyn hwnnw.” Mae arbenigwr ar iechyd meddwl, y Dr. Rick Hanson, yn datgan bod “empathi ym mêr ein hesgyrn.”

YSTYRIWCH: Pam y mae’r gallu gennyn ni i ddangos empathi, rhinwedd sydd ddim i’w weld mewn rhywogaethau eraill? Mae’r Beibl yn esbonio bod Duw wedi creu dynolryw ar ei ddelw ei hun. (Genesis 1:26) Rydyn ni wedi cael ein creu ar ddelw Duw ac felly’n gallu adlewyrchu ei bersonoliaeth a dangos ei rinweddau da i ryw raddau. Felly, pan fydd empathi yn annog pobl garedig i helpu eraill, maen nhw’n adlewyrchu empathi eu Creawdwr tosturiol, Jehofa Dduw.—Diarhebion 14:31.

BETH MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU INNI AM EMPATHI DUW?

Mae Duw yn teimlo empathi tuag aton ni ac yn casáu ein gweld ni’n dioddef. Yn achos yr Israeliaid gynt, a gafodd eu trin yn gas fel caethweision yn yr Aifft ac yna’n treulio 40 mlynedd anodd yn yr anialwch, mae’r Beibl yn dweud: “Pan oedden nhw’n diodde roedd e’n diodde hefyd.” (Eseia 63:9) Sylwch nad oedd Duw yn ymwybodol o’u dioddefaint yn unig. Roedd yn gallu teimlo eu poen. “Dw i’n teimlo drostyn nhw,” meddai Duw. (Exodus 3:7) Dywedodd un o’r proffwydi am Dduw “fod unrhyw un sy’n eich cyffwrdd chi yn cyffwrdd cannwyll ei lygad!” (Sechareia 2:8) Pan fo eraill yn ein brifo ni, mae calon Duw yn brifo hefyd.

Er efallai y gallwn ni ein condemnio ein hunain a theimlo nad ydyn ni’n haeddu empathi Duw, mae’r Beibl yn dweud: “Mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e’n gwybod am bob dim.” (1 Ioan 3:19, 20) Mae Duw yn ein hadnabod yn well nag ydyn ni’n ein hadnabod ein hunain. Mae’n hollol ymwybodol o’n hamgylchiadau, ein meddyliau, a’n teimladau. Yn bendant mae ganddo empathi tuag aton ni.

Gallwn droi at Dduw am gysur, doethineb, a chefnogaeth, gan wybod ei fod yn rhoi cymorth i’r rhai sy’n dioddef

Mae’r Ysgrythurau yn ein sicrhau

  • “Byddi’n galw, a bydd yr ARGLWYDD yn ateb; byddi’n gweiddi, a bydd e’n dweud, ‘Dw i yma.’”—ESEIA 58:9.

  • “‘Fi sy’n gwybod beth dw i wedi ei gynllunio ar eich cyfer chi,’ meddai’r ARGLWYDD. ‘Dw i’n bwriadu eich bendithio chi, dim gwneud niwed i chi. Dw i am roi dyfodol llawn gobaith i chi. Byddwch yn galw arna i ac yn gweddïo, a bydda i’n gwrando.’”—JEREMEIA 29:11, 12.

  • “Ti’n casglu fy nagrau mewn costrel. Mae’r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.”—SALM 56:8.

MAE DUW YN SYLWI, YN DEALL, AC YN TEIMLO DROSON NI

A ydy gwybod bod gan Dduw empathi yn gallu ein helpu i ddelio gydag anawsterau? Rhowch sylw i hanes Maria:

“Roeddwn i’n teimlo bod bywyd yn anodd ac yn annheg ar ôl imi brofi’r boen fwyaf dirfawr o golli fy mab 18 oed i ganser ar ôl iddo frwydro am ddwy flynedd. Roeddwn i’n flin â Jehofa am iddo beidio ag ymyrryd a gwella fy mab!

“Chwe mlynedd yn ddiweddarach, gwnaeth ffrind gariadus a thrugarog yn y gynulleidfa wrando arna’ i wrth imi fynegi fy nheimladau gan feddwl nad oedd Jehofa yn fy ngharu. Ar ôl gwrando arna’ i am oriau heb dorri ar draws, dyma hi’n dyfynnu adnod a wnaeth gyffwrdd fy nghalon. Yr Ysgrythur oedd 1 Ioan 3:19, 20, sy’n dweud: ‘Mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e’n gwybod am bob dim.’ Esboniodd hi fod Jehofa yn deall ein poen.

“Er gwaethaf hynny, roedd yn anodd imi beidio â dal dig! Wedyn, darllenais Salm 94:19, sy’n dweud: ‘Pan oeddwn i’n poeni am bob math o bethau, roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i’n llawen.’ Roeddwn i’n teimlo fel petai’r adnodau hynny wedi cael eu hysgrifennu ar fy nghyfer i yn benodol! Yn y pen draw, roedd gwybod fy mod i’n gallu siarad â Jehofa am fy mhroblemau yn gysur mawr imi gan wybod hefyd ei fod yn gwrando ac yn deall.”

Mor gysurus yw gwybod bod Jehofa yn ein deall ni ac yn teimlo droson ni! Ond, pam mae ’na gymaint o ddioddefaint felly? Ai oherwydd bod Duw yn ein cosbi am ddrwgweithredu? A fydd Duw yn rhoi diwedd ar yr holl ddioddefaint? Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu trafod yn yr erthyglau nesaf.