Neidio i'r cynnwys

MAI 5, 2023
DE COREA

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Tsieina

Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Tsieina

Ar Ebrill 23, 2023, cafodd Y Beibl—Llyfr Mathew ei ryddhau yn Iaith Arwyddion Tsieina (CSL) yn ystod rhaglen a gafodd ei gynnal yn Ne Corea. Dyma’r tro cyntaf i lyfr o’r Beibl gael ei ryddhau yn CSL. Mynychodd bron i 200 o bobl o’r dwy gynulleidfa CSL yn Ne Corea y digwyddiad. Mae cyfieithiad Iaith Arwyddion nawr ar gael i’w lawrlwytho ar jw.org ac yn yr ap JW Library Sign Language.

Ceisiodd y tîm gyfieithu’r llyfr mewn ffordd naturiol a chryno. Ynglŷn â hyn, dywedodd un cyfieithydd: “Mae dau allan o’r tri cyfieithwyr sydd ar y tîm yn fyddar, felly roedden ni’n trafod meddylfryd pobl fyddar yn aml. Roedd hi’n haws cyfieithu gyda mewnbwn pobl fyddar.”

Ychwanegodd cyfieithydd arall: “Roedd gweithio ar y cyfieithiad hwn yn fy helpu i ddeall yn well yr hyn a wnaeth Iesu, beth gwnaeth ef fynd trwyddo, a beth gwnaeth ef ddysgu tra oedd ar y ddaear.”

Mynegodd cyhoeddwr fyddar a oedd yn bresennol: “Cyn i’r llyfr gael ei ryddhau, dim ond ychydig o adnodau oedd ar gael yn CSL. Roedd fel petai dim ond ychydig o ddarnau o jig-so mewn lle. Nawr bod gynnon ni lyfr Mathew, mae’n cyffrous gweld y llun cyfan.”

Dywedodd cyhoeddwr byddar arall: “Mae’r cyhoeddiadau a’r llyfr newydd CSL mae cyfundrefn Jehofa wedi darparu yn gwneud imi sylweddoli faint mae Jehofa eisiau helpu’r fyddar, ac faint mae’n ein caru ni.”

Rydyn ni’n diolch i Jehofa am y cyfieithiad newydd hwn a fydd yn helpu ein brodyr a’n chwiorydd i barhau i addoli Duw gyda’r “ysbryd ac yn unol â’r gwir.”—Ioan 4:24.