Neidio i'r cynnwys

Faint o Dystion Jehofa Sydd Drwy’r Byd?

Faint o Dystion Jehofa Sydd Drwy’r Byd?

Adroddiad 2023

Nifer o Dystion Jehofa drwy’r byd

8,816,562

Cynulleidfaoedd

118,177

Gwledydd lle mae Tystion Jehofa yn pregethu

239

Cyfansymiau 2023

Adroddiadau 2023 Gwledydd a Thiriogaethau

Sut rydych chi’n cyfrif niferoedd Tystion Jehofa?

 Dim ond y rhai sy’n pregethu’r newyddion da am Deyrnas Dduw bob mis sy’n cael eu cyfrif yn Dystion Jehofa. (Mathew 24:14) Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi cael eu bedyddio, a’r rhai sydd yn gymwys i gymryd rhan yn y gwaith pregethu cyn iddyn nhw gael eu bedyddio.

A oes angen cyfrannu’n ariannol er mwyn bod yn Dyst?

 Nac oes. Nid ar sail ei gyfraniadau ariannol y mae rhywun yn cael ei gyfrif yn Dyst, neu yn derbyn aseiniadau na breintiau arbennig. (Actau 8:18-20) Y gwir yw bod y rhan fwyaf o gyfraniadau’n cael eu rhoi yn ddienw. Mae pob Tyst yn rhoi o’i amser, o’i egni, ac o’i adnoddau yn ôl ei ddymuniad ei hun a’i sefyllfa bersonol.—2 Corinthiaid 9:7.

Sut rydych chi’n gwybod faint sy’n pregethu?

 Bob mis, mae Tystion yn rhoi cofnod o’u gwaith pregethu i’r gynulleidfa leol.

 Mae’r adroddiadau gwirfoddol hyn yn cael eu cofnodi, ac mae’r cyfanswm yn cael ei anfon i swyddfa’r gangen leol. Mae’r canghennau yn anfon y cyfanswm ar gyfer eu hardaloedd nhw i’r pencadlys.

 Ar ddiwedd pob blwyddyn wasanaeth, a mae’r pencadlys yn nodi’r nifer uchaf o Dystion ym mhob gwlad ar gyfer y flwyddyn honno. Mae cyfanswm y ffigyrau hynny yn dangos y nifer o Dystion drwy’r byd. Cyhoeddir adroddiadau manwl ar gyfer pob gwlad ar ein gwefan yn yr adran “O Gwmpas y Byd.“ Mae’r adroddiadau hyn yn ein calonogi ni, fel yr oedd adroddiadau tebyg yn calonogi’r Cristnogion cynnar.—Actau 2:41; 4:4; 15:3.

Ydych chi’n cyfri y rhai sy’n dod i’ch cyfarfodydd ond nad ydynt yn pregethu?

 Nac ydym, ond rydyn ni’n eu croesawu yn ein cynulleidfaoedd. Mae’r rhan fwyaf sy’n dod i’n cyfarfodydd hefyd yn bresennol ar gyfer y Goffadwriaeth flynyddol i gofio marwolaeth Crist. Felly, cawn syniad am faint ohonyn nhw sydd, drwy gymharu’r nifer sy’n bresennol ar gyfer y Goffadwriaeth â’r nifer o Dystion. Yn 2023, roedd 20,461,767 yn bresennol ar gyfer y Goffadwriaeth.

 Mae llawer nad ydyn nhw’n dod i’n cyfarfodydd yn elwa ar ein rhaglen astudio’r Beibl am ddim. Yn 2023, ar gyfartaledd, cynhaliwyd 7,281,212 o astudiaethau bob mis, rhai gyda mwy nag un unigolyn.

Pam mae nifer y Tystion yn ôl cyfrifiad y llywodraeth yn uwch na’r nifer rydych chi’n ei gyhoeddi?

 Fel arfer, mae swyddfeydd cyfrifiad y llywodraeth yn casglu eu hystadegau drwy ofyn i bobl i ba grŵp crefyddol y maen nhw’n perthyn. Er enghraifft, mae Swyddfa Cyfrifiad Unol Daleithiau America yn dweud bod eu holiaduron “yn ceisio darganfod a yw’r atebwyr yn eu hystyried eu hunain yn aelodau o gymdeithas grefyddol,” gan dderbyn bod y canlyniadau “yn bortread bras yn hytrach nag un manwl gywir.” Sut bynnag, rydyn ni’n cyfrif dim ond y rhai sy’n pregethu ac sy’n cyflwyno adroddiad o’u gweinidogaeth, nid y rhai sydd ond yn eu galw eu hunain yn Dystion.

a Mae’r flwyddyn wasanaeth yn rhedeg o 1 Medi hyd at 31 Awst y flwyddyn wedyn. Er enghraifft, roedd y flwyddyn wasanaeth 2015 yn dechrau ar 1 Medi 2014 hyd at 31 Awst 2015.