Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Degymu?

Ydy Tystion Jehofa yn Degymu?

 Nac ydyn, dydy Tystion Jehofa ddim yn degymu; mae ein gwaith yn cael ei ariannu drwy gyfraniadau gwirfoddol. Ond, beth yw degwm, a pham nad yw Tystion Jehofa yn degymu?

 Roedd y gorchymyn i ddegymu, neu i rywun roi degfed o’i eiddo, yn rhan o’r Gyfraith a gafodd ei rhoi i genedl Israel gynt. Ond mae’r Beibl yn dweud yn glir nad oes rhaid i Gristnogion ddilyn y Gyfraith bellach, gan gynnwys ‘y gorchymyn i gymryd degwm.’​—Hebreaid 7:​5, 18; Colosiaid 2:​13, 14.

 Yn hytrach na rhoi degwm ac offrymau, mae Tystion Jehofa yn efelychu esiampl y Cristnogion cynnar ac yn cefnogi’r weinidogaeth mewn dwy ffordd: drwy gymryd rhan yn y gwaith pregethu heb dâl a thrwy roi cyfraniadau gwirfoddol.

 Felly, rydyn ni’n dilyn cyngor y Beibl i Gristnogion: “Rhaid i bawb roi o wirfodd ei galon, nid o anfodd neu o raid, oherwydd rhoddwr llawen y mae Duw’n ei garu.”​—2 Corinthiaid 9:7.