Neidio i'r cynnwys

Rhoi 19,000 o Deithiau Awyren yn Anrheg

Rhoi 19,000 o Deithiau Awyren yn Anrheg

Ym mis Gorffennaf 2013, cafodd llythyr cyffrous gan Gorff Llywodraethol Tystion Jehofa ei anfon at genhadon a phobl eraill a oedd yn gwasanaethu’n llawn amser dramor. Roedd y llythyr yn sôn am drefniadau i helpu’r rhai sy’n gwasanaethu dramor i deithio i’r cynadleddau rhanbarthol a rhyngwladol a gynhaliwyd yn 2014 ac yn gynnar yn 2015.

Roedd y trefniadau hyn nid yn unig ar gyfer helpu’r rhai sy’n gwasanaethu dramor i fynychu’r cynadleddau, ond hefyd i’w galluogi nhw i dreulio amser gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Roedd y llythyr yn egluro y buasai’r gyfundrefn yn talu am eu tocynnau awyren dwyffordd.

Er bod trefniadau tebyg wedi eu gwneud yn y gorffennol, byddai pethau yn cael eu trefnu yn wahanol y tro hwn. O dan gyfarwyddyd Pwyllgor Addysgu’r Corff Llywodraethol, roedd adran newydd, Teithiau Pencadlys, yn bwcio’r tocynnau awyren.

Ar ôl i’r gwahoddiadau fynd allan, roedd y nifer o geisiadau am docynnau awyren yn fach iawn. Ond, erbyn Ionawr 2014, roedd y nifer bychan bach hwn wedi troi’n bentwr o geisiadau. Aseiniwyd grŵp o bobl i wneud yr holl drefniadau ac aethon nhw ati i ymchwilio a bwcio’r teithiau ar gyfer y rhai a oedd yn gwasanaethu’n llawn amser ar draws y byd.

Roedd rhai o’r teithiau yn anodd eu cynllunio. Roedd angen i deithwyr o Reykjavík, Gwlad yr Iâ, fynd i Cochabamba, Bolifia. Roedd eraill yn dod o Nouméa, Caledonia Newydd, ac eisiau hedfan i Antananarivo, Madagasgar. Roedd rhai yn hedfan o Port Moresby, Papwa Gini Newydd i Seattle, Washington, U.D.A, ac eraill yn hedfan o Ouagadougou, Bwrcina Ffaso i Winnipeg, Canada.

Gan ddefnyddio cyfraniadau a oedd wedi eu neilltuo ar gyfer y gamp enfawr hon, roedd y pump o bobl a oedd yn gweithio yn yr adran Teithiau Pencadlys wedi bwcio tua 19,000 o docynnau awyren ar gyfer 4,300 o deithwyr a oedd yn gwasanaethu mewn 176 o wledydd.

Gwerthfawrogwyd yn fawr iawn yr anrheg werthfawr hon. Dyma un cwpl sy’n genhadon yn ysgrifennu: “Heddiw rydyn ni’n dychwelyd i’n haseiniad yn Ne Ddwyrain Asia. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn eich bod chi’n ein helpu ni i deithio yn ôl i Loegr, ein gwlad enedigol, er mwyn bod gyda’n teuluoedd am y tro cyntaf ers pum mlynedd. Heb y cymorth hwn, ni fyddai’n bosibl inni ddod adref. Felly, hoffwn ddweud diolch o’r galon wrth bawb a oedd wedi gwneud hyn yn bosibl.”

Meddai un cenhadwr sy’n gwasanaethu ym Mharagwâi: “Hoffwn i a’m gwraig ddweud diolch yn fawr iawn iawn am y cyfle a gawson ni i fynychu’r gynhadledd ryngwladol yn New Jersey, U.D.A. Yn gynnar yn 2011, dechreuon ni gynllunio taith i’r Unol Daleithiau i weld y pencadlys. I’r diben hwnnw, roedden ni wedi dechrau hel ein harian. Ond, ym mis Mehefin o’r flwyddyn honno, cawson ni wahoddiad i ymweld â’r cynulleidfaoedd iaith arwyddion ym Mharagwâi. Byddai hyn yn cynnwys llawer iawn o deithio. Felly, ar ôl pwyso a mesur y sefyllfa, penderfynon ni aberthu ein taith i’r Unol Daleithiau er mwyn prynu car fel y gallwn fod yn fwy effeithiol yn ein haseiniad newydd. Wedyn, cawson ni’r gwahoddiad i fynychu’r gynhadledd ryngwladol. Gwireddwyd ein breuddwydion! Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae Jehofa wedi dangos ei ddaioni a’i gariad tuag aton ni.”

“Roedden ni eisiau anfon nodyn bach i ddweud pa mor ddiolchgar rydyn ni!” ysgrifennodd gwpl o Falawi. “Dydyn ni ddim ond yn gallu dychmygu faint o ymdrech, amser, ac arian aeth i mewn i gynllunio cymaint o deithiau. Rydyn ni’n ddiolchgar am eich gwaith caled ac, yn bennaf, am haelioni cyfundrefn Jehofa sy’n ei gwneud hi’n bosibl inni deithio adref er mwyn mynychu’r gynhadledd ryngwladol ac i dreulio amser gyda’n teuluoedd a’n ffrindiau.”

Roedd y rhai a oedd yn gweithio yn yr adran Teithiau Pencadlys yn hoff iawn o’u haseiniad. “Roedd helpu’r cenhadon i fynd yn ôl i weld eu teuluoedd a’u ffrindiau yn rhywbeth arbennig iawn,” dywedodd Mileivi. “Roedd yn fy helpu i i weld dyfnder y cariad sydd gan y gyfundrefn tuag at y rhai sy’n gwasanaethu dramor,” ychwanegodd Dorise. Ac meddai Rodney, arolygwr yr adran, “Mae wedi bod yn bleser mawr i fod yn rhan o’r prosiect.”

Roedd Tystion Jehofa ar hyd a lled y byd yn mwynhau’r cyfle o gyfrannu tuag at yr anrheg werthfawr hon ar gyfer eu brodyr a’u chwiorydd sydd mor weithgar a hunanaberthol.