Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Ces i Hyd i Gyfoeth Go Iawn

Ces i Hyd i Gyfoeth Go Iawn
  • Ganwyd: 1968

  • Gwlad Enedigol: Yr Unol Daleithiau

  • Hanes: Dyn busnes a weddïodd am gyfoeth

FY NGHEFNDIR

 Ces i fy magu fel Catholig yn Rochester, Efrog Newydd. Gwnaeth fy rhieni wahanu pan o’n i’n wyth mlwydd oed. Yn ystod yr wythnos o’n i’n aros gyda Mam mewn ardal dlawd, ac ar y penwythnosau o’n i’n aros gyda fy nhad mewn ardal gyfoethog. Pan o’n i’n gweld pa mor anodd oedd hi i Mam fagu chwech o blant, o’n i’n breuddwydio am helpu fy nheulu drwy ddod yn gyfoethog.

 Oedd Dad eisiau imi fod yn llwyddiannus, felly mi wnaeth o drefnu imi ymweld ag ysgol enwog oedd yn hyfforddi pobl i fod yn rheolwyr gwestai. O’n i wedi gwirioni, felly wnes i gofrestru gan feddwl bod Duw yn ateb fy ngweddïau i fod yn gyfoethog ac yn hapus. Wnes i gyrsiau ar reoli gwestai, cyfraith busnes, a chyllid busnes am bum mlynedd tra o’n i’n gweithio mewn gwesty casino yn Las Vegas, Nevada.

Roedd fy ngwaith yn cynnwys gofalu am ddymuniadau gamblwyr cyfoethog

 Erbyn imi droi’n 22, o’n i’n is-lywydd cynorthwyol mewn gwesty casino. I bob pwrpas o’n i’n gyfoethog ac yn llwyddiannus, yn aml yn mwynhau’r bwydydd gorau a’r gwinoedd drutaf. Byddai fy ffrindiau busnes yn dweud, “Canolbwyntia ar beth sy’n gwneud i’r byd droi​—arian.” Yn eu tyb nhw, arian oedd y gyfrinach i wir hapusrwydd.

 Fel rhan o ngwaith, o’n i’n gofalu am anghenion a dymuniadau pobl gyfoethog iawn oedd yn dod i Las Vegas i gamblo. Er eu bod nhw’n gyfoethog, oedden nhw’n edrych yn anhapus. Dechreuais i deimlo’n anhapus hefyd. A dweud y gwir, y mwyaf o arian o’n i’n ei wneud, y mwyaf o’n i’n pryderu ac yn methu cysgu. Wnes i hyd yn oed ddechrau meddwl, a oedd bywyd yn werth ei fyw? Wedi siomi’n llwyr â fy ffordd o fyw, wnes i droi at Dduw a gofyn, “Lle galla i ffeindio hapusrwydd go iawn?”

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD

 Tua’r adeg honno, symudodd dwy o fy chwiorydd, oedd wedi dod yn Dystion Jehofa, i Las Vegas. Er fy mod i’n gwrthod derbyn eu llenyddiaeth, mi wnes i gytuno i ddarllen fy Meibl personol gyda nhw. Yn fy Meibl i, roedd geiriau Iesu mewn print coch. Gan fy mod i’n derbyn popeth a ddywedodd Iesu, byddai fy chwiorydd yn canolbwyntio ar ei eiriau fo. O’n i hefyd yn darllen y Beibl ar fy mhen fy hun.

 Ces i fy synnu gan lawer o’r pethau o’n i’n eu darllen. Er enghraifft, wrth sôn am weddïo dywedodd Iesu: “Peidiwch mwydro ymlaen yn ddiddiwedd fel mae’r paganiaid yn gwneud. Maen nhw’n meddwl y bydd Duw yn gwrando am eu bod yn gweddïo mor hir.” (Mathew 6:7) Ond eto, roedd offeiriad wedi rhoi llun o Iesu imi, a dweud, os byddwn i’n gweddïo o flaen y llun hwnnw gan adrodd Gweddi’r Arglwydd a’r Henffych Fair ddeg gwaith yr un, byddai Duw yn rhoi imi faint bynnag o arian o’n i ei angen. Ond, o ailadrodd yr un geiriau drosodd a throsodd, onid o’n i fy hun yn mwydro ymlaen yn ddiddiwedd? Wnes i hefyd ddarllen geiriau Iesu: “A pheidiwch rhoi’r teitl anrhydedd ‘Y tad’ i neb. Duw yn y nefoedd ydy’ch Tad chi.” (Mathew 23:9) Felly wnes i ddechrau meddwl, ‘Pam ydw i a fy nghyd-Gatholigion yn galw ein hoffeiriaid yn “Dad”?’

 Dim ond ar ôl imi ddarllen llyfr Iago wnes i ddechrau meddwl o ddifri am beth o’n i’n wneud â fy mywyd. Ym mhennod 4, ysgrifennodd Iago: “Ydy hi ddim yn amlwg i chi fod bod yn gyfaill i bethau’r byd yn golygu casineb at Dduw? Mae unrhyw un sy’n dewis bod yn gyfaill i’r byd yn gwneud ei hun yn elyn i Dduw.” (Iago 4:4) Gwnaeth adnod 17 fy nharo i fwy byth: “Os dych chi’n gwybod beth ydy’r peth iawn i’w wneud, ac eto ddim yn ei wneud, dych chi’n pechu.” Wedyn, wnes i ffonio fy chwiorydd a dweud fy mod i’n rhoi’r gorau i weithio yn y busnes gwestai casino am fy mod i’n gorfod cael rhan mewn pethau oedd yn annerbyniol imi bellach, gan gynnwys gamblo a thrachwant.

“Dim ond ar ôl imi ddarllen llyfr Iago wnes i ddechrau meddwl o ddifri am beth o’n i’n gwneud â fy mywyd”

 O’n i eisiau gwella fy mherthynas â Duw, yn ogystal â fy rhieni, fy mrawd, a mhedair chwaer. Felly wnes i benderfynu symleiddio fy mywyd er mwyn cael mwy o amser i wneud hynny. Ond doedd newid fy mywyd ddim yn hawdd. Er enghraifft, ges i gynigion deniadol am swyddi gwell yn y busnes gwestai casino, lle byddwn i’n ennill dwy neu dair gwaith fy nghyflog presennol. Ond ar ôl gweddïo am y mater, wnes i benderfynu doeddwn i ddim eisiau byw fel ’na ddim mwy. Felly, wnes i adael fy swydd, symud i mewn i garej Mam, a dechrau busnes bach yn lamineiddio bwydlenni.

 Er bod y Beibl wedi helpu imi ddeall beth oedd yn bwysig, o’n i dal ddim eisiau mynd i gyfarfodydd Tystion Jehofa. Gofynnodd fy chwiorydd beth oedd gen i yn erbyn y Tystion. Fy ateb i oedd: “Am fod eich Duw Jehofa yn gwahanu teuluoedd. Yr unig amser sydd gen i i dreulio gyda’r teulu ydy’r Nadolig a phenblwyddi, a ‘dych chi ddim yn dathlu’r rheini.” Dechreuodd un o fy chwiorydd grio, a gofyn imi: “Lle wyt ti weddill y flwyddyn? ’Dyn ni eisiau gweld mwy ohonot ti, ond ti ond eisiau dod yn ystod y gwyliau—a hynny allan o ddyletswydd.” Aeth ei geiriau hi’n syth i nghalon, a wnes innau ddechrau crio hefyd.

 Dyna pryd wnes i ddeall fy mod i’n anghywir, a bod Tystion Jehofa yn caru eu teuluoedd. Felly wnes i benderfynu mynd i un o’u cyfarfodydd yn Neuadd y Deyrnas leol. Yno, wnes i gyfarfod Kevin, athro’r Beibl profiadol a wnaeth ddechrau astudio’r Beibl gyda mi.

 Roedd Kevin a’i wraig yn byw bywyd syml, er mwyn treulio gymaint o amser â phosib i helpu eraill i ddeall y Beibl. Roedden nhw’n ennill jest digon o arian i deithio i Affrica a chanolbarth America, lle roedden nhw’n helpu i adeiladu swyddfeydd ar gyfer y Tystion. Oedden nhw’n hapus iawn ac yn caru ei gilydd. A dyma fi’n meddwl, ‘Byddwn i wrth fy modd yn byw fel maen nhw.’

 Dangosodd Kevin fideo imi am yr hapusrwydd sy’n dod o wasanaethu fel cenhadwr, a wnes i benderfynu mai dyna o’n i eisiau wneud. Ym 1995, ar ôl astudio’r Beibl yn ddwys am chwe mis, ges i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa. Yn hytrach na gofyn i Dduw am gyfoeth, wnes i weddïo: “Paid rhoi tlodi na chyfoeth i mi.”—Diarhebion 30:8.

FY MENDITHION

 Erbyn hyn mae gen i gyfoeth go iawn—⁠nid cyfoeth ariannol, ond ysbrydol. Wnes i gyfarfod fy ngwraig annwyl, Nuria, yn Hondwras, a ’dyn ni wedi gwasanaethu gyda’n gilydd fel cenhadon yn Panama a Mecsico. Mae geiriau’r Beibl mor wir: “Bendith yr ARGLWYDD sy’n rhoi cyfoeth, ac nid yw’n ychwanegu gofid gyda hi.”—Diarhebion 10:22, Beibl Cymraeg Diwygiedig.