Neidio i'r cynnwys

Daeth Un Astudiaeth Feiblaidd yn Llawer

Daeth Un Astudiaeth Feiblaidd yn Llawer

 Mae Marta, sy’n un o Dystion Jehofa yng Ngwatemala, yn dysgu’r iaith Cectsi, er mwyn rhannu neges y Beibl gyda phobl sy’n siarad yr iaith honno. Un diwrnod, mi welodd hi ddyn yn gadael yr ysbyty. O edrych arno, roedd Marta yn tybio ei fod yn dod o bentref Cectsi mewn ardal fynyddig lle nad oedd Tystion Jehofa wedi pregethu ryw lawer. Aeth hi ato a siarad ag ef gan ddefnyddio’r ychydig o Cectsi oedd ganddi.

 Gwnaeth Marta gynnig astudiaeth Feiblaidd i’r dyn. Oedd o’n hapus i dderbyn ei chynnig, ond dywedodd wrthi nad oedd ganddo’r arian i dalu amdani. Esboniodd Marta fod Tystion Jehofa yn astudio’r Beibl gyda phobl yn rhad ac am ddim. Dywedodd hi hefyd ei fod yn gallu astudio dros y ffôn, a bod ei deulu cyfan yn gallu ymuno. Cytunodd y dyn. Am ei fod yn gallu siarad a darllen Sbaeneg, rhoddodd Marta gopi Sbaeneg o’r New World Translation of the Holy Scriptures iddo. Gwnaeth hi hefyd roi copi Cectsi o’r adnodd astudio’r Beibl Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? iddo. Yr wythnos wedyn, dechreuodd y dyn, ei wraig, a’u dau o blant astudio’r Beibl gyda Marta dros y ffôn. Roedden nhw’n astudio ddwywaith yr wythnos. “Am fy mod i ddim yn rhugl yn Cectsi,” meddai Marta, “Oedden ni’n astudio yn Sbaeneg, ac roedd y dyn yn cyfieithu popeth ar gyfer ei wraig. Oedd y plant yn deall Sbaeneg yn iawn.”

 Roedd y dyn yn weinidog yn ei Eglwys. Dechreuodd rannu’r hyn roedd yn ei ddysgu o’i astudiaeth Feiblaidd gyda’r rhai oedd yn mynd i’w Eglwys. Roedden nhw’n hoffi beth roedden nhw’n ei glywed, ac yn gofyn iddo lle oedd ef wedi dysgu’r pethau newydd yma. Pan ddywedodd wrthyn nhw am ei astudiaeth Feiblaidd, dechreuon nhw ymuno fesul un. Yn fuan, roedd ’na tua 15 yn dod at ei gilydd bob wythnos i astudio dros y ffôn gyda Marta. Ymhen amser, gwnaethon nhw ddechrau gosod meicroffon wrth ymyl y ffôn, fel bod pawb yn gallu clywed.

 Pan ddywedodd Marta wrth yr henuriaid yn ei chynulleidfa am yr astudiaeth Feiblaidd, aeth un ohonyn nhw i’r pentref lle roedd y myfyrwyr yn byw. Gwnaeth ef eu gwahodd nhw i anerchiad cyhoeddus y byddai arolygwr y gylchdaith a yn ei roi mewn pentref oedd mor bell i ffwrdd byddai’n rhaid gyrru am awr, ac wedyn cerdded am ddwy awr arall er mwyn ei gyrraedd. Gwnaeth y myfyrwyr gytuno i fynd, a gwnaeth 17 ohonyn nhw droi fyny.

 Rai wythnosau wedyn, treuliodd arolygwr y gylchdaith, a rhai Tystion eraill, bedwar diwrnod gyda’r myfyrwyr. Yn y boreau, oedden nhw’n gwylio fideos Beiblaidd ar jw.org yn yr iaith Cectsi, ac yn astudio’r llyfryn Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw? Ac yn y prynhawniau, oedden nhw’n gwylio rhannau o raglenni JW Broadcasting. Gwnaeth arolygwr y gylchdaith hefyd drefnu i bob un o’r myfyrwyr gael rhywun i astudio’r Beibl gyda nhw’n bersonol.

 Yn ystod y pedwar diwrnod hynny, gwnaeth y Tystion hefyd bregethu mewn pentrefi Cectsi cyfagos, a gwahodd y bobl i gyfarfod arbennig. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, gwnaeth y brodyr wahodd y 47 oedd yno i gael astudiaeth Feiblaidd eu hunain. Gwnaeth 11 teulu dderbyn y cynnig.

 Rai misoedd wedyn, gwnaeth yr henuriaid drefnu cyfarfod yn y pentref gwreiddiol bob penwythnos. Heddiw, mae tua 40 yn mynd i’r cyfarfodydd yn rheolaidd. A phan wnaeth y brodyr gynnal Coffadwriaeth marwolaeth Iesu yno, roedden nhw wrth eu boddau bod 91 wedi dod.

 Gan gofio sut dechreuodd y profiad hwn a sut gwnaeth pethau ddatblygu, dywedodd Marta: “Dw i mor ddiolchgar i Jehofa. Weithiau dw i’n teimlo dw i ddim yn gallu gwneud llawer. Ond gall Duw wneud defnydd da ohonon ni. Oedd o’n nabod calonnau’r pentrefwyr hynny, a wnaeth o eu denu nhw at ei bobl. Mae Jehofa yn eu caru nhw.”

a Mae arolygwr cylchdaith yn un o Dystion Jehofa sy’n ymweld â grŵp o tua 20 cynulleidfa sy’n cael ei alw’n gylch.