Neidio i'r cynnwys

Dywed Dy Fod yn Eu Caru

Dywed Dy Fod yn Eu Caru

 Mae Ong-Li yn un o Dystion Jehofa ym Mwlgaria. Roedd hi’n astudio’r Beibl gyda dynes ifanc o’r enw Zlatka. Nid oedd gŵr Zlatka yn astudio gyda nhw. Dywed Ong-Li: “Roedden ni’n trafod bywyd teuluol a pha mor bwysig yw dweud wrth ein cymar a’n plant ein bod ni’n eu caru. Daeth golwg drist i wyneb Zlatka, ac fe ddywedodd nad oedd hi erioed wedi dweud wrth ei gŵr nac wrth ei merch naw oed ei bod hi yn eu caru nhw!”

 Esboniodd Zlatka: “Dw i’n barod i wneud unrhyw beth i’w helpu, ond dw i’n methu dweud y geiriau hynny.” Ychwanegodd: “Dw i erioed wedi clywed fy mam yn dweud ‘dw i’n dy garu di,’ a doedd Mam erioed wedi clywed y geiriau hynny gan ei mam hithau ychwaith.” Fe wnaeth Ong-Li ddangos i Zlatka fod Jehofa wedi dweud yn uchel ei fod yn caru Iesu. (Mathew 3:​17) Anogodd Zlatka i weddïo ar Jehofa am y peth ac i geisio dod o hyd i’r geiriau i ddweud wrth ei gŵr a’i merch ei bod hi’n eu caru.

 Dywed Ong-Li: “Ddau ddiwrnod wedyn, daeth Zlatka ata i yn wên i gyd a dweud ei bod hi wedi gweddïo ar Jehofa am help. Pan ddaeth ei gŵr adref, dywedodd wrtho ei bod hi wedi dysgu o’r Beibl pa mor bwysig yw i wraig barchu a charu ei gŵr. Dyma hi’n seibio am eiliad, a dweud wrtho ‘dw i wir yn dy garu di!’ Pan ddaeth ei merch adref, rhoddodd Zlatka gwtsh iddi a dweud yr un peth wrthi hi hefyd! Dywedodd Zlatka wrtho i: ‘Mae’n rhyddhad mawr. Dros y blynyddoedd dw i wedi cuddio fy nheimladau, ond o’r diwedd gyda help Jehofa, dw i’n gallu rhoi fy nghariad tuag at fy nheulu mewn geiriau.’”

Mae Ong-Li yn dal i helpu eraill yn ei chymdogaeth i astudio’r Beibl

 “Wythnos yn ddiweddarach,” meddai Ong-Li, “cwrddais â gŵr Zlatka ac fe ddywedodd ef: ‘Mae llawer o bobl wedi dweud wrtho i na ddylai Zlatka astudio’r Beibl gyda chi, ond does dim dwywaith amdani, mae wedi helpu ein teulu yn fawr. Mae’r berthynas rhyngon ni yn gynhesach ac yn hapusach o lawer.’”