Neidio i'r cynnwys

Beth Mae’n ei Olygu i ‘Anrhydeddu Dy Dad a’th Fam’?

Beth Mae’n ei Olygu i ‘Anrhydeddu Dy Dad a’th Fam’?

Ateb y Beibl

 Mae’r gorchymyn “anrhydedda dy dad a’th fam” yn ymddangos yn aml yn y Beibl. (Exodus 20:12; Deuteronomium 5:16; Mathew 15:4; Effesiaid 6:2, 3, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae’n cynnwys pedair gweithred allweddol.

  1.   Gwerthfawrogwch nhw. Rydych chi’n anrhydeddu eich rhieni pan ydych chi’n ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi ei wneud drosoch chi. Gallwch ddangos hyn drwy werthfawrogi eu harweiniad. (Diarhebion 7:1, 2; 23:26) Mae’r Beibl yn eich annog chi i fod yn falch ohonyn nhw.—Diarhebion 17:6.

  2.   Derbyniwch eu hawdurdod. Yn enwedig tra ydych chi’n ifanc, rydych chi’n anrhydeddu eich rhieni wrth gydnabod yr awdurdod mae Duw wedi ei roi iddyn nhw. Mae Colosiaid 3:20 yn dweud: “Rhaid i chi’r plant fod yn ufudd i’ch rhieni bob amser, am fod hynny’n plesio’r Arglwydd.” Gwnaeth hyd yn oed Iesu ifanc ufuddhau i’w rieni o’i wirfodd.—Luc 2:51.

  3.   Dylech chi eu trin nhw mewn ffordd barchus. (Lefiticus 19:3; Hebreaid 12:9) Yn aml mae hyn yn cynnwys y geiriau rydych chi’n eu dweud a sut ewch chi ati i’w dweud nhw. Yn wir, mae rhai rhieni weithiau yn ymddwyn mewn ffordd sy’n gwneud hi’n anodd i’w parchu. Ond hyd yn oed mewn sefyllfa o’r fath, gall plant anrhydeddu eu rhieni drwy osgoi geiriau a gweithredoedd sy’n amharchus. (Diarhebion 30:17) Mae’r Beibl yn dysgu bod sarhau eich tad neu’ch mam yn drosedd ddifrifol.—Mathew 15:4.

  4.   Gofalwch amdanyn nhw. Wrth i’ch rhieni fynd yn hŷn, efallai bydd angen cymorth ymarferol arnyn nhw. Gallwch eu hanrhydeddu drwy wneud eich gorau glas i sicrhau bod ganddyn nhw beth maen nhw’n ei angen. (1 Timotheus 5:4, 8) Er enghraifft, ychydig cyn iddo farw, gwnaeth Iesu drefnu i rywun ofalu am ei fam.—Ioan 19:25-27.

Camsyniadau am anrhydeddu tad a mam

 Camsyniad: I anrhydeddu dy dad a dy fam, mae’n rhaid iti adael iddyn nhw reoli dy briodas.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn dysgu bod rhwymyn priodas yn bwysicach na dy berthynas ag aelodau eraill o’r teulu. Dywed Genesis 2:24: “Dyna pam mae dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn cael ei uno â’i wraig.” (Mathew 19:4, 5) Wrth gwrs, gall cyplau priod elwa ar gyngor eu rhieni neu eu rhieni-yng-nghyfraith. (Diarhebion 23:22) Ond, mae gan gwpl yr hawl i osod terfynau ar faint o reolaeth sydd gan eu perthnasau dros eu priodas.—Mathew 19:6.

 Camsyniad: Dy dad a dy fam sydd â’r awdurdod pennaf.

 Ffaith: Er i Dduw roi awdurdod i rieni o fewn y teulu, mae ’na derfyn i awdurdod dynol—dydy awdurdod dynion ddim yn uwch nag awdurdod Duw. Er enghraifft, pan orchmynnodd uchel lys i ddisgyblion Iesu anufuddhau i Dduw, atebon nhw: “Mae’n rhaid i ni ufuddhau i Dduw, dim i ddynion meidrol fel chi!” (Actau 5:27-29) Yn yr un modd, mae plant i ufuddhau i’w rhieni “yn yr Arglwydd” hynny yw, ym mhopeth sydd ddim yn mynd yn groes i ddeddfau Duw.—Effesiaid 6:1, BCND.

 Camsyniad: Mae anrhydeddu dy dad a dy fam yn golygu bod rhaid iti ddilyn eu daliadau crefyddol.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn ein hannog i brofi’r hyn a ddysgwn i weld a yw’n wir neu beidio. (Actau 17:11; 1 Ioan 4:1) O wneud hyn gall unigolyn ddewis ffydd sy’n wahanol i ffydd eu rhieni. Mae’r Beibl yn sôn am nifer o weision ffyddlon Duw a ddewisodd beidio â dilyn crefydd eu rhieni, gan gynnwys Abraham, Ruth, a’r apostol Paul.—Josua 24:2, 14, 15; Ruth 1:15, 16; Galatiaid 1:14-16, 22-24.

 Camsyniad: Mae anrhydeddu dy dad a dy fam yn golygu bod rhaid iti ddilyn defodau traddodiadol sydd ynghlwm ag addoli dy gyndadau.

 Ffaith: Mae’r Beibl yn dweud: “Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.” (Luc 4:8) Dydy person sy’n addoli ei gyndadau ddim yn plesio Duw. Yn fwy na hyn, mae’r Beibl yn dysgu: “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd.” Dydyn nhw ddim yn ymwybodol o unrhyw wrogaeth a delir iddyn nhw; nac yn gallu helpu’r byw na gwneud drwg iddyn nhw.​—Pregethwr 9:5, 10; Eseia 8:19.