Neidio i'r cynnwys

Beth Yw Gwreiddiau Noson Galan Gaeaf?

Beth Yw Gwreiddiau Noson Galan Gaeaf?

Ateb y Beibl

 Mae llawer o bobl yn dathlu Noson Galan Gaeaf ar Hydref 31 bob blwyddyn. Er nad ydy’r Beibl yn sôn am yr ŵyl hon, mae’r gwreiddiau a’r traddodiadau sydd ynghlwm wrthi yn mynd yn groes i ddysgeidiaethau’r Beibl.

Yn yr erthygl hon

 Hanes a thraddodiadau Noson Galan Gaeaf

  •   Samhain: Yn ôl y World Book Encyclopedia, “dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y Celtiaid yn dathlu’r ŵyl baganaidd hon,” sydd wrth wraidd Noson Galan Gaeaf. “Roedd y Celtiaid yn credu bod y meirw yn crwydro’r ddaear yn ystod Samhain, a bod pobl fyw yn gallu ymweld â’r meirw.”—Gweler “ O Le Daeth yr Enw Noson Galan Gaeaf?

  •   Cast neu geiniog, gwisgoedd, a fferins: Yn ôl un ffynhonnell, roedd rhai o’r Celtiaid yn gwisgo dillad arswydus fel bod yr ysbrydion oedd yn crwydro “yn meddwl eu bod nhw’n perthyn iddyn nhw” ac yn gadael llonydd iddyn nhw. Roedd eraill yn cynnig pethau melys i’r ysbrydion er mwyn eu tawelu. a

     Yn yr oesoedd canol, gwnaeth clerigwyr Catholig yn Ewrop fabwysiadu arferion paganaidd lleol, gan annog pobl i fynd o dŷ i dŷ yn eu gwisgoedd yn gofyn am anrhegion.

  •   Ysbrydion, fampirod, blaidd-ddynion, gwrachod, a sombis: Mae ’na gysylltiad wedi bod rhwng y rhain ag ysbrydion drwg ers amser maith. Mae’r llyfr Halloween Trivia yn cyfeirio atyn nhw fel “bwystfilod goruwchnaturiol,” ac yn dweud bod ’na “gysylltiad agos” rhwng y creaduriaid hyn a “marwolaeth, y meirw, ac ofn marw.”

  •   Pwmpenni Noson Galan Gaeaf, neu jaclantars: Ym Mhrydain yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd pobl yn “mynd o ddrws i ddrws yn dweud y byddan nhw’n gofyn gweddi dros y meirw petasen nhw’n cael bwyd.” Roedden nhw hefyd yn cario “llusern wedi ei gerfio o feipen gyda channwyll ynddi i gynrychioli enaid a oedd yn gaeth ym mhurdan.” (Halloween—From Pagan Ritual to Party Night) Mae rhai haneswyr yn dweud bod llusernau wedi cael eu defnyddio i gadw ysbrydion drwg draw. Yn ystod y ddeunawfed ganrif yng Ngogledd America, dechreuodd pobl ddefnyddio pwmpenni yn lle maip oherwydd roedd ’na ddigonedd ar gael ac roedden nhw’n hawdd eu cerfio.

 Oes ’na ots beth yw gwreiddiau Noson Galan Gaeaf?

 Oes. Mae rhai pobl yn ystyried Noson Galan Gaeaf fel ychydig o hwyl ddiniwed, ond mae’r pethau maen nhw’n eu gwneud i ddathlu’r noson honno yn mynd yn erbyn beth mae’r Beibl yn ei ddweud. Mae Noson Galan Gaeaf wedi ei seilio ar gamsyniadau ynglŷn â’r meirw, ysbrydion, neu gythreuliaid.

 Mae’r adnodau canlynol yn dangos sut mae Duw yn teimlo am y pethau sydd wedi eu cysylltu â Noson Galan Gaeaf:

  •   ‘Ddylai neb ohonoch chi fynd ar ôl ysbrydion, chwarae gyda’r ocwlt na cheisio siarad â’r meirw.’—Deuteronomium 18:10-12.

     Ystyr: Dydy cyfathrebu â’r meirw, neu hyd yn oed rhoi’r argraff o gyfathrebu â’r meirw, ddim yn dderbyniol i Dduw.

  •   “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd.”—Pregethwr 9:5.

     Ystyr: Dydy’r meirw ddim yn ymwybodol, felly allan nhw ddim cyfathrebu â phobl fyw.

  •   “[Peidiwch â chael] dim i’w wneud â chythreuliaid. Dydy hi ddim yn iawn i chi yfed o gwpan yr Arglwydd ac o gwpan pwerau cythreulig ar yr un pryd.”—1 Corinthiaid 10:20, 21, beibl.net.

     Ystyr: Er mwyn plesio Duw, mae’n rhaid osgoi unrhyw gysylltiad â chythreuliaid.

  •   “Sefyll yn gadarn yn erbyn gweithredoedd cyfrwys y Diafol; oherwydd bod gynnon ni frwydr . . . yn erbyn yr ysbrydion drwg.”—Effesiaid 6:11, 12.

     Ystyr: Dylai Cristnogion gael dim i’w wneud â chythreuliaid, nac ymddwyn fel eu bod nhw’n dathlu gyda nhw.

a Gweler y llyfr Halloween: An American Holiday, an American History, tudalen 4.