Neidio i'r cynnwys

Beth Ydy Ystyr “Llygad am Lygad” yn y Beibl?

Beth Ydy Ystyr “Llygad am Lygad” yn y Beibl?

Ateb y Beibl

 Roedd y rheol “llygad am lygad” yn rhan o Gyfraith Duw a roddwyd i’r Israeliaid gynt gan Moses. Dyfynnodd Iesu’r rheol hon yn ei Bregeth ar y Mynydd. (Mathew 5:38; Exodus 21:24, 25; Deuteronomium 19:21) Wrth weinyddu cyfiawnder, roedd hynny yn golygu y dylai’r gosb fod yn gyfwerth â’r drosedd. a

 Roedd y rheol hon yn berthnasol i achosion lle roedd rhywun wedi anafu person arall yn fwriadol. Ynglŷn â rhywun oedd wedi troseddu’n fwriadol, dywedodd Cyfraith Moses: “Anaf am anaf, llygad am lygad, dant am ddant—beth bynnag mae e wedi ei wneud i’r person arall, dyna sydd i gael ei wneud iddo fe.”—Lefiticus 24:20.

 Beth oedd pwrpas y rheol “llygad am lygad”?

 Nid oedd y rheol “llygad am lygad” yn caniatáu neu’n cymeradwyo i unigolion dalu’r pwyth yn ôl. Yn hytrach, roedd yn helpu barnwyr penodedig i osod cosb briodol nad oedd yn rhy lym nac yn rhy wan.

 Roedd y rheol yn tueddu i atal y rhai a fyddai’n niweidio eraill yn fwriadol neu’n meddwl am eu niweidio. “Bydd gweddill y bobl yn clywed beth ddigwyddodd,” meddai’r Gyfraith, “a bydd ganddyn nhw ofn gwneud pethau mor ddrwg.”​—Deuteronomium 19:20.

 Ydy’r rheol “llygad am lygad” yn berthnasol i Gristnogion?

 Nac ydy. Does dim angen i Gristnogion ddilyn y rheol hon. Roedd hi’n rhan o Gyfraith Moses a gafodd ei diddymu gan farwolaeth Iesu.—Rhufeiniaid 10:4.

 Eto i gyd, mae’r rheol hon yn ein helpu ni i ddeall meddwl Duw. Er enghraifft, mae’n dangos bod cyfiawnder yn bwysig i Dduw. (Salm 89:14) Y mae hefyd yn dangos safon ei gyfiawnder, sef bod troseddwyr i gael eu cosbi yn ôl yr hyn maen nhw eu haeddu.—Jeremeia 30:11.

 Camsyniadau am y rheol “llygad am lygad”

 Camsyniad: Roedd y rheol “llygad am lygad” yn rhy lym.

 Ffaith: Nid oedd y rheol hon yn caniatáu gweithredu cyfiawnder mewn ffordd lawdrwm a chreulon. I’r gwrthwyneb, o’i defnyddio’n iawn, roedd yn sicrhau bod barnwyr cymwys yn ystyried yr amgylchiadau a’r bwriad y tu ôl i’r drosedd cyn penderfynu ar y gosb. (Exodus 21:28-30; Numeri 35:22-25) Roedd y rheol “llygad am lygad” yn helpu i osgoi cosbi pobl mewn ffordd eithafol.

 Camsyniad: Roedd y rheol “llygad am lygad” yn gyfrifol am greu cylch diderfyn o dalu’r pwyth yn ôl.

 Ffaith: I’r gwrthwyneb, dywedodd Cyfraith Moses: “Paid dial ar bobl neu ddal dig yn eu herbyn nhw.” (Lefiticus 19:18) Yn hytrach nag annog pobl i dalu’r pwyth yn ôl, roedd y Gyfraith yn annog pobl i ymddiried yn Nuw ac yn y system gyfreithiol yr oedd wedi ei sefydlu i weithredu cyfiawnder.—Deuteronomium 32:35.

a Mae’r egwyddor gyfreithiol hon a elwir weithiau wrth y term lex talionis, hefyd i’w cael yn systemau cyfreithiol rhai diwylliannau hynafol eraill.