Yn Ôl Mathew 5:1-48

  • PREGETH AR Y MYNYDD (1-48)

    • Iesu yn dechrau dysgu ar y mynydd (1, 2)

    • Naw hapusrwydd (3-12)

    • Halen a goleuni (13-16)

    • Iesu yn cyflawni’r Gyfraith (17-20)

    • Cyngor ar ddicter (21-26), godineb (27-30), ysgariad (31, 32), llwon (33-37), dial (38-42), caru gelynion (43-48)

5  Pan welodd ef y tyrfaoedd, aeth i fyny’r mynydd; ac ar ôl iddo eistedd i lawr, daeth ei ddisgyblion ato.  Yna agorodd ei geg a dechrau eu dysgu nhw, gan ddweud:  “Hapus ydy’r rhai sy’n ymwybodol fod ganddyn nhw angen ysbrydol,* oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn iddyn nhw.  “Hapus ydy’r rhai sy’n galaru, oherwydd y byddan nhw’n cael eu cysuro.  “Hapus ydy’r rhai addfwyn, oherwydd y byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.  “Hapus ydy’r rhai sy’n newynu ac yn sychedu am gyfiawnder, oherwydd y byddan nhw’n cael eu bodloni.*  “Hapus ydy’r rhai trugarog, oherwydd y bydd trugaredd yn cael ei ddangos tuag atyn nhw.  “Hapus ydy’r rhai pur eu calon, oherwydd y byddan nhw’n gweld Duw.  “Hapus ydy’r rhai sy’n gwneud heddwch,* oherwydd y byddan nhw’n cael eu galw’n feibion i Dduw. 10  “Hapus ydy’r rhai sydd wedi cael eu herlid o achos cyfiawnder, oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn iddyn nhw. 11  “Hapus ydych chi pan fydd pobl yn eich sarhau chi ac yn eich erlid chi ac yn dweud pob math o gelwyddau drwg amdanoch chi er fy mwyn i. 12  Byddwch yn llawn llawenydd ac yn hapus iawn, oherwydd mawr ydy eich gwobr yn y nefoedd; yn yr un modd hefyd y gwnaethon nhw erlid y proffwydi a oedd o’ch blaen chi. 13  “Chi ydy halen y ddaear, ond os ydy’r halen yn colli ei flas, sut bydd yn cael ei flas hallt yn ôl? Nid yw’n dda i ddim mwyach ond ei daflu allan a’i sathru gan ddynion. 14  “Chi ydy goleuni’r byd. Ni all dinas gael ei chuddio pan fydd hi wedi ei lleoli ar fynydd. 15  Mae pobl yn goleuo lamp ac yn ei gosod hi, nid o dan fasged,* ond ar ei stand, ac mae’n disgleirio ar bawb yn y tŷ. 16  Yn yr un modd, gadewch i’ch goleuni ddisgleirio gerbron dynion, fel y gallan nhw weld eich gweithredoedd da a rhoi gogoniant i’ch Tad sydd yn y nefoedd. 17  “Peidiwch â meddwl fy mod i wedi dod i ddinistrio’r Gyfraith na’r Proffwydi. Fe ddes i, nid i ddinistrio, ond i gyflawni. 18  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi y byddai’n rhaid i nefoedd a daear ddiflannu cyn i un llythyren neu un rhan fechan o lythyren ddiflannu o’r Gyfraith hyd nes i bopeth ddigwydd. 19  Felly, bydd pwy bynnag sy’n torri un o’r gorchmynion lleiaf hyn ac yn dysgu eraill i wneud hynny yn cael ei alw’r lleiaf o ran Teyrnas y nefoedd. Ond bydd pwy bynnag sy’n eu gwneud ac yn eu dysgu yn cael ei alw’n fawr o ran Teyrnas y nefoedd. 20  Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, os na fydd eich cyfiawnder yn mynd y tu hwnt i gyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, ni fyddwch chi ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn i Deyrnas y nefoedd. 21  “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud wrth y rhai yn yr amseroedd a fu: ‘Paid â llofruddio, ond bydd pwy bynnag sy’n llofruddio yn atebol i’r llys barn.’ 22  Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd pwy bynnag sy’n parhau i fod yn ddig wrth ei frawd yn atebol i’r llys barn; a bydd pwy bynnag sy’n dirmygu ei frawd â geiriau sarhaus yn atebol i’r Goruchaf Lys; ond bydd pwy bynnag sy’n dweud, ‘Y ffŵl da i ddim!’ yn cael ei gondemnio i’r Gehenna* tanllyd. 23  “Felly, os wyt ti’n dod â dy offrwm i’r allor ac yn cofio yno fod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn, 24  gad dy offrwm yno o flaen yr allor, a dos i ffwrdd. Yn gyntaf, gwna heddwch â dy frawd, ac yna tyrd yn dy ôl a chyflwyno dy offrwm. 25  “Bydda’n gyflym i setlo pethau â dy wrthwynebwr cyfreithiol, tra byddi di ar y ffordd yno gydag ef, rhag ofn i dy wrthwynebwr rywsut neu’i gilydd dy roi di yn nwylo’r barnwr, ac i’r barnwr dy roi di i was y llys, a tithau’n cael dy daflu i’r carchar. 26  Y ffaith amdani yw, chei di byth ddod allan nes y byddi di wedi talu dy geiniog olaf.* 27  “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud: ‘Paid â godinebu.’ 28  Ond rydw i’n dweud wrthoch chi fod unrhyw un sy’n parhau i edrych ar ddynes* mewn ffordd sy’n gwneud iddo fod eisiau cael rhyw gyda hi eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon. 29  Nawr, os ydy dy lygad de yn gwneud iti faglu, tynna dy lygad allan a’i daflu oddi wrthot ti. Oherwydd gwell fyddai iti golli un o dy lygaid nag i dy gorff cyfan gael ei daflu i Gehenna.* 30  Hefyd, os ydy dy law dde yn gwneud iti faglu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu oddi wrthot ti. Oherwydd gwell fyddai iti golli un o dy ddwylo nag i dy gorff cyfan fynd i Gehenna.* 31  “Ar ben hynny, fe gafodd hyn ei ddweud: ‘Pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig, mae’n rhaid iddo roi tystysgrif ysgariad iddi.’ 32  Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi fod pob un sy’n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anfoesoldeb rhywiol,* yn ei gwneud hi’n agored i’r peryg o odinebu, ac mae pwy bynnag sy’n priodi dynes* sydd wedi cael ysgariad yn godinebu. 33  “Unwaith eto y clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud wrth y rhai yn yr amseroedd a fu: ‘Paid â gwneud llw ac yna ei dorri, ond mae’n rhaid iti gadw dy addunedau i Jehofa.’ 34  Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi: Peidiwch â gwneud llw o gwbl, nac yn enw’r nef, oherwydd mae’n cynrychioli gorsedd Duw; 35  nac yn enw’r ddaear, oherwydd ei bod hi’n droedfainc i’w draed; nac yn enw Jerwsalem, oherwydd ei bod hi’n ddinas i’r Brenin mawr. 36  Paid â gwneud llw yn enw dy ben, oherwydd ni elli di droi un blewyn yn wyn nac yn ddu. 37  Ond gadewch i’ch ‘Ie’ olygu ie, a’ch ‘Nage’ olygu nage, oherwydd y mae’r hyn sy’n mynd y tu hwnt i’r rhain yn dod o’r un drwg. 38  “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud: ‘Llygad am lygad a dant am ddant.’ 39  Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi: Paid â gwrthsefyll yr un sy’n ddrwg, ond pwy bynnag sy’n dy daro di ar dy foch dde, tro’r llall ato hefyd. 40  Ac os ydy rhywun eisiau mynd â ti i’r llys a chymryd dy grys, gad iddo gael dy gôt hefyd; 41  ac os ydy rhywun mewn awdurdod yn dy orfodi di i fynd gydag ef am un filltir, dos gydag ef am ddwy filltir. 42  Rho i’r un sy’n gofyn am rywbeth gen ti, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth rywun sydd eisiau cael benthyg* gen ti. 43  “Clywsoch chi fod hyn wedi cael ei ddweud: ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog a chasáu dy elyn.’ 44  Fodd bynnag, rydw i’n dweud wrthoch chi: Parhewch i garu eich gelynion ac i weddïo dros y rhai sy’n eich erlid, 45  fel y gallwch ddangos eich bod chi’n feibion i’ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd ei fod yn gwneud i’r haul godi ar y drwg a’r da ac yn gwneud iddi fwrw glaw ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46  Oherwydd os ydych chi’n caru’r rhai sy’n eich caru chi, pa wobr sydd gynnoch chi? Onid ydy’r casglwyr trethi hefyd yn gwneud yr un peth? 47  Ac os ydych chi’n cyfarch eich brodyr yn unig, pa beth arbennig rydych chi’n ei wneud? Onid ydy pobl y cenhedloedd hefyd yn gwneud yr un peth? 48  Felly mae’n rhaid i chi fod yn berffaith,* fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.

Troednodiadau

Neu “y rhai sy’n gardotwyr am yr ysbryd.”
Neu “llenwi.”
Neu “sy’n heddychlon.”
Neu “o dan fasged fesur.”
Y lle ar gyfer llosgi sbwriel y tu allan i Jerwsalem. Gweler Geirfa.
Lyth., “y cwadrans olaf.”
Neu “ar fenyw.”
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Groeg, porneia. Gweler Geirfa.
Neu “menyw.”
Hynny yw, benthyca heb log.
Neu “yn gyflawn.”