Yn Ôl Mathew 18:1-35

  • Y mwyaf yn y Deyrnas (1-6)

  • Cerrig rhwystr (7-11)

  • Dameg y ddafad goll (12-14)

  • Sut i ennill brawd (15-20)

  • Dameg y caethwas anfaddeugar (21-35)

18  Yn yr awr honno daeth y disgyblion yn agos at Iesu a dweud: “Pwy yn wir sydd yn fwyaf yn Nheyrnas y nefoedd?”  Felly dyma’n galw plentyn bach ato, a’i osod yn eu canol nhw  a dywedodd: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os nad ydych chi’n newid* a bod fel plant bach, ni fyddwch chi ar unrhyw gyfri yn mynd i mewn i Deyrnas y nefoedd.  Felly, pwy bynnag sy’n ostyngedig ac yn edrych arno’i hun fel y plentyn bach hwn ydy’r un sy’n fwyaf yn Nheyrnas y nefoedd;  ac mae pwy bynnag sy’n derbyn un plentyn bach o’r fath ar sail fy enw i yn fy nerbyn innau hefyd.  Ond pwy bynnag sy’n baglu un o’r rhai bychain hyn sydd â ffydd yno i, byddai’n well iddo ef gael ei grogi am ei wddf gan faen melin sy’n cael ei droi gan asyn ac iddo gael ei daflu i ganol y môr.  “Gwae’r byd oherwydd y cerrig rhwystr! Wrth gwrs, bydd cerrig rhwystr yn siŵr o ddod, ond gwae’r dyn sy’n gyfrifol amdanyn nhw!  Felly, os ydy dy law neu dy droed yn gwneud iti faglu, torra hi i ffwrdd a’i thaflu oddi wrthot ti. Mae’n well iti dderbyn bywyd wedi dy anafu neu’n gloff na chael dy daflu i’r tân tragwyddol â dwy law neu ddwy droed.  Hefyd, os ydy dy lygad yn gwneud iti faglu, tynna dy lygad allan a’i daflu oddi wrthot ti. Mae’n well iti dderbyn bywyd ag un llygad na chael dy daflu i’r Gehenna* tanllyd â dau lygad. 10  Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n dirmygu un o’r rhai bychain hyn, oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod eu hangylion yn y nef bob amser yn edrych ar wyneb fy Nhad sydd yn y nef. 11  —— 12  “Beth rydych chi’n ei feddwl? Os oes gan fugail 100 o ddefaid a bod un ohonyn nhw wedi crwydro, oni fydd yn gadael y 99 ar y mynyddoedd ac yn mynd i chwilio am yr un sydd wedi crwydro? 13  Ac os yw’n dod o hyd iddi, yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, mae’n llawenhau mwy drosti hi na thros y 99 sydd heb grwydro. 14  Yn yr un modd, dydy fy Nhad* sydd yn y nef ddim yn dymuno i hyd yn oed un o’r rhai bychain hyn farw. 15  “Ar ben hynny, os yw dy frawd yn pechu, dos a datgelu ei fai* rhyngot ti ac ef yn unig. Os yw’n gwrando arnat ti, rwyt ti wedi ennill dy frawd. 16  Ond os nad yw’n gwrando, cymera un neu ddau arall gyda ti, er mwyn i bob mater gael ei wneud yn glir ar sail tystiolaeth* dau neu dri o dystion. 17  Os nad yw’n gwrando arnyn nhwthau, siarada â’r gynulleidfa. Os nad yw’n gwrando hyd yn oed ar y gynulleidfa, dylet ti ei drin fel dyn o’r cenhedloedd ac fel casglwr trethi. 18  “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd pa bynnag bethau y byddwch chi’n eu rhwymo ar y ddaear eisoes wedi eu rhwymo yn y nef, a bydd pa bynnag bethau y byddwch chi’n eu rhyddhau ar y ddaear eisoes wedi eu rhyddhau yn y nef. 19  Eto yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, os ydy dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i weddïo am unrhyw beth sy’n bwysig, fe fydd hynny’n cael ei gyflawni gan fy Nhad yn y nef. 20  Oherwydd lle mae dau neu dri yn dod at ei gilydd yn fy enw i, rydw i yno yn eu plith.” 21  Yna daeth Pedr a dweud wrtho: “Arglwydd, sawl gwaith y mae fy mrawd i bechu yn fy erbyn a minnau i faddau iddo? Hyd at saith gwaith?” 22  Dywedodd Iesu wrtho: “Rydw i’n dweud wrthot ti, nid hyd at saith gwaith, ond hyd at 77 gwaith. 23  “Dyna pam mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i frenin a oedd eisiau i’w gaethweision dalu eu dyledion. 24  Pan ddechreuodd ef gasglu eu dyledion, daeth ei weision â dyn i mewn a oedd yn ei ddyled o 10,000 o dalentau.* 25  Ond oherwydd nad oedd modd iddo dalu, gwnaeth ei feistr orchymyn iddo ef a’i wraig a’i blant a’i holl eiddo gael eu gwerthu ac i’r ddyled gael ei thalu. 26  Felly syrthiodd y caethwas i lawr ac ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud, ‘Bydda’n amyneddgar wrtho i, a bydda i’n talu’r cwbl yn ôl i ti.’ 27  Oherwydd ei fod yn teimlo trueni drosto, gwnaeth meistr y caethwas hwnnw adael iddo fynd a maddau’r ddyled iddo. 28  Ond dyma’r caethwas hwnnw yn mynd allan a dod o hyd i un o’i gyd-gaethweision, a oedd yn ei ddyled o 100 denariws, ac yn gafael ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud, ‘Tala’r holl ddyled imi.’ 29  Felly syrthiodd ei gyd-gaethwas i lawr a dechrau ymbil arno, gan ddweud, ‘Bydda’n amyneddgar wrtho i, a bydda i’n dy dalu yn ôl.’ 30  Fodd bynnag, nid oedd yn fodlon gwneud hynny, ond aeth a threfnu iddo gael ei daflu i’r carchar nes iddo allu talu ei ddyled yn ôl. 31  Pan welodd ei gyd-gaethweision beth oedd wedi digwydd, roedden nhw’n ofidus iawn, ac aethon nhw at eu meistr ac adrodd pob peth oedd wedi digwydd. 32  Yna gwnaeth ei feistr ei alw ef ato a dweud wrtho: ‘Y caethwas drwg, fe wnes i faddau’r holl ddyled honno iti pan wnest ti erfyn arna i. 33  Oni ddylet tithau hefyd fod wedi bod yn drugarog wrth dy gyd-gaethwas fel yr oeddwn i’n drugarog wrthot ti?’ 34  Ar hynny dyma ei feistr, yn ei ddicter, yn ei drosglwyddo i warchodwyr y carchar nes iddo dalu ei holl ddyled. 35  Bydd fy Nhad nefol hefyd yn delio â chi yn yr un ffordd os nad yw pob un ohonoch chi yn maddau i’ch brawd o’ch calon.”

Troednodiadau

Neu “troi.”
Gweler Geirfa.
Neu efallai, “eich Tad.”
Llyth., “a’i geryddu.”
Llyth., “ceg.”
Roedd 10,000 o dalentau o arian yn gyfartal â 60,000,000 o ddenarii.
Neu “plygu.”