Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

BYDDWCH YN WYLIADWRUS!

Tymereddau Uwch Nag Erioed ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

Tymereddau Uwch Nag Erioed ar Draws y Byd—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?

 Yn ystod mis Gorffennaf 2022, cafodd tymereddau sy’n torri sawl record eu hadrodd yn fyd-eang:

  •   “Mae Tsieina yn gosod y rhybudd gwres uchaf mewn bron i 70 dinas yn yr ail don wres y mis hwn.”—Gorffennaf 25, 2022, CNN Wire Service.

  •   “Mae tanau coedwig yn lledaenu’n ffyrnig ar draws Ewrop wrth i don wres achosi i dymereddau godi’n sydyn.”—Gorffennaf 17, 2022, The Guardian.

  •   “Ar ddydd Sul, cafodd llawer o ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau dywydd poethach nag erioed o’r blaen wrth i don wres ledaenu ar draws arfordir y Dwyrain a rhannau o’r De a’r Gorllewin Canol.”—Gorffennaf 24, 2022, The New York Times.

 Beth mae hyn i gyd yn ei olygu? A fydd hi’n amhosib byw ar y ddaear yn y pen draw? Beth mae’r Beibl yn ei ddweud?

Ydy tonnau gwres yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl?

 Ydy, maen nhw. Mae tonnau gwres yn cyd-fynd â digwyddiadau rhagfynegodd y Beibl amdanyn nhw ar gyfer ein hamser ni. Er enghraifft, gwnaeth Iesu broffwydo y bydden ni’n gweld “pethau dychrynllyd” yn digwydd. (Luc 21:11) Mae’r ffaith bod tymereddau’n codi ar draws y byd wedi gwneud i lawer o bobl boeni y bydd dynolryw yn dinistrio’r ddaear.

A fydd hi’n amhosib byw ar y ddaear?

 Na fydd. Creodd Duw y ddaear i fod yn gartref parhaol i ddynolryw. (Salm 115:16; Pregethwr 1:4) Yn hytrach na gadael i fodau dynol ei dinistrio hi, bydd Duw yn ‘dinistrio’r rhai sy’n dinistrio’r ddaear,’ fel mae wedi addo.—Datguddiad 11:18.

 Ystyriwch ddwy broffwydoliaeth sy’n dangos beth arall mae Duw wedi ei addo:

  •   “Bydd yr anialwch a’r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo—yn blodeuo’n sydyn fel saffrwn.” (Eseia 35:1) Fydd Duw ddim yn gadael i’r ddaear droi’n anialwch sy’n amhosib i fyw ynddo, ond fe fydd yn adfer y rhannau ohoni sydd wedi cael eu niweidio.

  •   “Ti’n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio a’i gwneud yn hynod ffrwythlon.” (Salm 65:9) Gyda bendith Duw, bydd y ddaear yn troi’n baradwys.

 I ddysgu mwy am sut mae newid hinsawdd yn cyflawni proffwydoliaeth y Beibl, darllenwch yr erthygl “Newid Hinsawdd a’n Dyfodol—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud.”

 I ddysgu mwy am addewid y Beibl ynglŷn â’r amgylchedd yn cael ei adfer, gweler yr erthygl Who Will Save the Earth?