BYD MEWN HELYNT
2 | Gwarchod Eich Bywoliaeth
PAM MAE’N BWYSIG
Mae llawer o bobl yn stryglo bob dydd i gael popeth maen nhw ei angen i fyw. Yn anffodus, mae problemau yn y byd yn gallu gwneud hynny’n anoddach. Pam?
-
Mae cymunedau ble mae helyntion yn gweld costau byw yn codi—gan gynnwys costau tai a bwyd.
-
Mae llawer o bobl yn colli eu swyddi neu’n gorfod gweithio am lai o gyflog pan mae ’na argyfwng.
-
Mae trychinebau yn gallu dinistrio busnesau, cartrefi, neu eiddo, gan achosi tlodi i lawer.
Beth Dylech Chi ei Wybod?
-
Os ydych chi’n defnyddio eich arian yn ddoeth, bydd hi’n haws arnoch chi mewn argyfwng.
-
Cofiwch fod eich incwm, cynilion, ac eiddo yn gallu colli eu gwerth.
-
Mae yna bethau dydy arian ddim yn gallu eu prynu, fel hapusrwydd ac undod yn y teulu.
Beth Gallwch Chi ei Wneud Nawr?
Mae’r Beibl yn dweud: “Felly os oes gynnon ni fwyd a dillad, gadewch i ni fod yn fodlon gyda hynny.”—1 Timotheus 6:8.
Mae bodlonrwydd yn golygu bod yn hapus gyda’r hyn rydyn ni ei angen nid popeth rydyn ni ei eisiau. Mae hyn yn enwedig o bwysig pan ydyn ni’n gorfod byw ar lai o arian.
I fod yn fodlon, efallai bydd angen ichi symleiddio eich bywyd. Os ydych chi’n gwario mwy na’ch incwm, bydd gynnoch chi fwy o broblemau.