Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Sefydlogrwydd Ariannol

Sefydlogrwydd Ariannol

Mae egwyddorion y Beibl wedi helpu llawer o bobl i leihau eu problemau ariannol.

CYNLLUNIWCH YN DDOETH

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae llwyddiant yn dod o gynllunio gofalus a gwaith caled; ond dydy brys gwyllt ddim ond yn arwain i dlodi.”—Diarhebion 21:5.

BETH MAE’N EI OLYGU? Er mwyn llwyddo, mae’n rhaid ichi lynu wrth eich cynllun. Felly, cynlluniwch cyn gwario. Cofiwch, mae’n annhebygol y gallwch chi brynu popeth rydych chi eisiau. Felly, gwariwch eich arian yn ddoeth.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Cadw at gyllideb. Cofnodwch bob un o’ch costau yn ôl categori a neilltuo arian at bob cost. Os ydych chi’n gwario mwy na’r disgwyl ar un categori, gwariwch lai ar gategori arall er mwyn talu amdano. Er enghraifft, os ydy eich costau teithio yn codi’n annisgwyl, talwch amdano ag arian oedd wedi ei neilltuo ar gyfer rhywbeth llai pwysig, fel bwyta allan.

  • Osgoi dyled ddiangen. Gwnewch eich gorau i osgoi mynd i ddyled. Yn hytrach, cynilwch arian er mwyn prynu’r pethau angenrheidiol. Os ydych chi’n defnyddio cerdyn credyd, ceisiwch dalu eich bil yn llawn bob mis i osgoi gorfod talu llog. Os ydych chi mewn dyled, gwnewch gynllun i’w thalu yn ôl, a chadwch ato.

    Mae ymchwil yn awgrymu bod gan bobl dueddiad i wario mwy wrth ddefnyddio cerdyn credyd. Felly os oes gennych chi un, byddwch yn ofalus wrth ei ddefnyddio.

GWRTHODWCH AGWEDDAU DRWG

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Os nad ydy’r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn, pan ddaw’r cynhaeaf, fydd e’n cael dim byd.”—Diarhebion 20:4.

BETH MAE’N EI OLYGU? Gall diogi arwain at dlodi. Felly, gweithiwch yn galed, a gwnewch eich gorau i gynllunio eich dyfodol ariannol.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

  • Gweithio’n galed. Os ydych chi’n ddibynadwy ac yn gweithio’n galed, bydd eich cyflogwr yn eich parchu ac eisiau osgoi eich colli.

  • Bod yn onest. Peidiwch â dwyn oddi ar eich cyflogwr. Gall bod yn anonest ddifetha eich enw da a’i gwneud hi’n anodd ichi gael swydd arall.

  • Peidio â bod yn farus. Os ydych chi o hyd yn ceisio cael mwy a mwy o arian, bydd eich iechyd a’ch perthynas ag eraill yn dioddef. Cofiwch, mae mwy i fywyd nag arian.

EGWYDDORION ERAILL O’R BEIBL

Cewch ddarllen y Beibl ar lein, mewn cannoedd o ieithoedd ar jw.org

PEIDIWCH Â GWASTRAFFU AMSER AC ARIAN AR ARFERION DRWG.

“Bydd y rhai sy’n meddwi a gorfwyta yn mynd yn dlawd; fydd ganddyn nhw ddim egni, a byddan nhw mewn carpiau.”—DIARHEBION 23:21.

PEIDIWCH Â PHRYDERU’N ORMODOL.

“Dyma dw i’n ddweud—peidiwch poeni beth i’w fwyta a beth i’w yfed a beth i’w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad?”—MATHEW 6:25.

PEIDIWCH Â BOD YN GYBYDDLYD.

“Mae person cybyddlyd eisiau gwneud arian sydyn, heb sylweddoli mai colled sy’n dod iddo.”—DIARHEBION 28:22.