Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Cyfathrebu ydy’r bont sydd yn eich cysylltu chi â’ch plant

AR GYFER RHIENI

5: Cyfathrebu

5: Cyfathrebu

BETH MAE’N EI OLYGU?

Mae gwir gyfathrebu yn digwydd pan fyddwch chi a’ch plant yn cymryd rhan mewn proses ddwyffordd lle’r ydych chi’n rhannu eich meddyliau a’ch teimladau.

PAM MAE’N BWYSIG?

Mae cyfathrebu â phlant yn eu harddegau yn gallu bod yn fwy o her. Yn eithaf diweddar efallai, “roedd gennych chi ganiatâd i fynd y tu cefn i lwyfan bywydau eich plant,” meddai’r llyfr Breaking the Code. “Erbyn hyn, y gorau sydd gennych chi ydy sedd yng nghanol y gynulleidfa, ac mae hi’n eithaf tebyg nad ydy’r sedd honno yn un o’r seddi gorau.” Yn groes i’r disgwyl, dyma’n union pryd mae angen inni gyfathrebu â’n plant!

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

Byddwch yn fodlon addasu i amserlen eich plant. Gwnewch hyn hyd yn oed pan fydd hynny’n golygu siarad â nhw yn hwyr yn y nos.

“Efallai byddwch chi’n teimlo fel dweud, ‘Rŵan rwyt ti eisiau siarad? Dw i wedi bod efo ti drwy’r dydd!’ Ond sut gallwn ni gwyno pan fydd ein plant eisiau agor i fyny inni? Dyna beth mae pob rhiant yn gobeithio amdano!”—Lisa.

“Dw i’n hoff o fy nghwsg, ond mae rhai o’r sgyrsiau gorau rydw i wedi eu cael gyda fy mhlant sydd yn eu harddegau wedi digwydd ar ôl hanner nos.”—Herbert.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Gadewch i bob un barhau i geisio, nid ei fantais ei hun, ond mantais y person arall.”—1 Corinthiaid 10:24.

Peidiwch â gadael i bethau ddenu eich sylw. Mae un tad yn cyfaddef: “Weithiau, rydw i’n fy nal fy hun yn meddwl am rywbeth arall wrth i fy mhlant geisio siarad â mi. Dydyn nhw ddim yn methu tric—maen nhw’n gwybod!”

Os allwch chi gydymdeimlo â’r sylw hwnnw, diffoddwch y teledu a rhowch eich ffôn neu’ch tabled i lawr. Canolbwyntiwch ar beth mae eich plentyn yn ei ddweud a rhowch eich holl sylw i’r hyn sydd ar ei feddwl, hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl bod y peth yn bwysig.

“Mae angen inni ddangos i’n plant fod eu teimladau yn bwysig inni. Os dydyn nhw ddim yn meddwl hynny, byddan nhw’n cadw’r pethau sy’n eu poeni nhw iddyn nhw eu hunain neu y byddan nhw’n troi at rywun arall am help.”—Maranda.

“Peidiwch â gorymateb, hyd yn oed os ydy safbwynt eich plentyn yn bell o fod yn gywir.”—Anthony.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Rhowch sylw i sut rydych chi’n gwrando.”—Luc 8:18.

Manteisiwch ar sefyllfaoedd anffurfiol. Weithiau, bydd plant yn fwy parod i siarad pan nad ydyn nhw’n eistedd wyneb yn wyneb â’u rhieni.

“Rydyn ni’n tueddu i siarad wrth deithio yn y car. Mae eistedd ochr yn ochr yn hytrach na wyneb yn wyneb wedi arwain at sgyrsiau da.”—Nicole.

Mae amser te hefyd yn gyfle i siarad yn anffurfiol.

“Amser te, rydyn ni i gyd yn sôn am y peth gwaethaf a’r peth gorau sydd wedi digwydd inni y diwrnod hwnnw. Mae gwneud hyn yn dod â ni’n agosach at ein gilydd ac yn ein hatgoffa nad oes rhaid inni wynebu problemau ar ein pennau’n hunain.”—Robin.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Mae’n rhaid i bawb fod yn gyflym i wrando [ac] yn araf i siarad.”—Iago 1:19.