Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Mae gwaith tîm yn golygu eich bod chi’n beilot ac yn gyd-beilot yn dilyn yr un cynllun hedfan

AR GYFER CYPLAU

2: Gwaith Tîm

2: Gwaith Tîm

BETH MAE’N EI OLYGU?

Pan fydd cwpl priod yn gweithio fel tîm, mae’r gŵr a’r wraig fel peilot a chyd-beilot yn dilyn yr un cynllun hedfan. Hyd yn oed pan fydd anawsterau yn codi, mae’r ddau gymar yn meddwl yn nhermau “ni” yn hytrach na “fi.”

EGWYDDOR FEIBLAIDD: “Dydyn nhw ddim yn ddau bellach, ond yn un cnawd.”—Mathew 19:6.

“Mae’n rhaid i ŵr a gwraig weithio gyda’i gilydd er mwyn i’w priodas lwyddo.”—Christopher.

PAM MAE’N BWYSIG?

Pan fydd ffrae yn codi, bydd gŵr a gwraig sydd ddim yn gweithio fel tîm yn tueddu i ymosod ar ei gilydd yn hytrach na cheisio datrys y broblem. Bydd problemau bach yn troi’n rhwystrau mawr.

“Gwaith tîm ydy sylfaen priodas. Os nad oedd fy ngŵr a minnau’n gweithio fel tîm, bydden ni’n fwy fel dau berson sy’n rhannu ystafell yn hytrach na bod yn gwpl priod—dau berson sy’n byw gyda’i gilydd ond sydd ddim yn gwneud penderfyniadau pwysig gyda’i gilydd.”—Alexandra.

BETH ALLWCH CHI EI WNEUD?

PROFWCH EICH HUN

  • A ydw i’n ystyried yr arian rydw i’n ei ennill yn arian i mi yn unig?

  • Er mwyn ymlacio’n llwyr, oes rhaid imi fod i ffwrdd o fy nghymar?

  • Ydw i’n osgoi perthnasau fy nghymar, er iddo ef neu iddi hi fod yn agos atyn nhw?

TRAFODWCH Â’CH GILYDD

  • Ym mha agwedd(au) o’n priodas rydyn ni’n gweithio’n dda fel tîm?

  • Ym mha agwedd(au) o’n priodas y gallwn ni wella?

  • Pa gamau gallwn ni eu cymryd i weithio’n well fel tîm?

AWGRYMIADAU

  • Dychmygwch eich bod chi’n chwarae tennis gyda’r ddau ohonoch chi ar ochr wahanol i’r rhwyd. Yn hytrach, pa gamau ymarferol gallwch chi eu cymryd i ymuno â’ch cymar fel eich bod chi ar yr un tîm?

  • Yn hytrach na meddwl ‘Sut galla’ i ennill?’ meddyliwch ‘Sut gall y ddau ohonon ni ennill?’

“Anghofiwch am bwy sy’n gywir a phwy sy’n anghywir. Dydy hynny ddim mor bwysig â chadw heddwch ac undod yn eich priodas.”—Ethan.

EGWYDDOR FEIBLAIDD: ‘Gofalwch nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.’—Philipiaid 2:3, 4.