Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Hen Lyfr ar Gyfer Bywyd Heddiw

Hen Lyfr ar Gyfer Bywyd Heddiw

Mae llawer o bobl yn dweud mai llyfr sanctaidd ydy’r Beibl. Ond, mae’n cynnig mwy nag arweiniad crefyddol yn unig, gan ei fod yn cynnwys cyngor ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd.

Er enghraifft, ystyriwch sut mae rhai pobl wedi elwa ar ddarllen y Beibl a rhoi ei gyngor ar waith yn eu bywydau:

“Mae fy mywyd yn fwy cytbwys, ac mae fy iechyd meddyliol ac emosiynol wedi gwella, a dw i’n teimlo’n hapusach o ganlyniad.”—Fiona.

“Drwy astudio’r Beibl, dw i wedi cael gwir bwrpas ac ystyr i fy mywyd.”—Gnitko.

“Mae’r Beibl wedi gwneud byd o wahaniaeth i fy mywyd. Bellach, mae gen i fywyd syml a mwy o amser gyda fy nheulu.”—Andrew.

Mae llwyth o brofiadau eraill fel y rhain. Mae llawer o bobl drwy’r byd wedi gweld bod y Beibl yn cynnwys cryn dipyn o gyngor ymarferol.

Gadewch inni ystyried sut gall y Beibl eich helpu i wella eich . . .

  • Iechyd corfforol

  • Iechyd emosiynol

  • Perthynas â theulu a ffrindiau

  • Sefydlogrwydd ariannol

  • Ysbrydolrwydd

Bydd yr erthyglau canlynol yn dangos bod y Beibl yn llyfr oddi wrth Dduw sy’n gallu eich helpu mewn ffyrdd ymarferol yn eich bywyd bob dydd.