Neidio i'r cynnwys

MAE’R BEIBL YN NEWID BYWYDAU

Bellach Dw i’n Teimlo Mod i’n Gallu Helpu Eraill

Bellach Dw i’n Teimlo Mod i’n Gallu Helpu Eraill
  • GANWYD: 1981

  • GWLAD: ENEDIGOL GWATEMALA

  • HANES: PLENTYNDOD TRIST

FY NGHEFNDIR:

Ces i fy ngeni yn Acul, tref anghysbell yn ucheldiroedd gorllewin Gwatemala. Mae fy nheulu yn perthyn i lwyth yr Icsil, grŵp ethnig o dras Maia. Yn ogystal â’r iaith Sbaeneg, ces i fy magu i siarad ein hiaith frodorol. Pan o’n i’n ifanc iawn, oedd ’na ryfel cartref ffyrnig yng Ngwatemala a barodd am 36 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn bu farw llawer o lwyth yr Icsil.

Pan o’n i’n bedwar, oedd fy mrawd saith mlwydd oed yn chwarae gyda grenâd wnaeth ffrwydro yn ddamweiniol. Collais fy ngolwg oherwydd y ddamwain honno; ac mae’n ddrwg gen i ddweud, collodd fy mrawd ei fywyd. O hynny ymlaen, wnes i dreulio fy mhlentyndod mewn sefydliad ar gyfer plant dall yn Ninas Gwatemala, lle wnes i ddysgu braille. Yno, am resymau doeddwn i ddim yn eu deall yn iawn, doedd y staff ddim yn gadael imi siarad â’r plant eraill, ac roedd y disgyblion eraill yn fy osgoi. O’n i wastad yn unig ac yn dyheu am y ddau fis bob blwyddyn pan o’n i’n cael bod gartref gyda mam, a oedd wastad yn garedig ac yn drugarog. Yn drist iawn, buodd hi farw pan o’n i’n ddeg oed. Gan deimlo mod i wedi colli’r unig berson yn y byd oedd yn fy ngharu, o’n i’n ddigalon tu hwnt.

Pan o’n i’n 11, wnes i symud yn ôl i’r dref lle ces i ngeni a dechrau byw gyda fy hanner brawd a’i deulu. Gwnaethon nhw ofalu am fy anghenion corfforol, ond doedd neb yn gallu fy helpu’n emosiynol. Ar adegau, byddwn i’n erfyn ar Dduw: “Pam wnaeth Mam farw? Pam mae’n rhaid imi fod yn ddall?” Roedd pobl yn dweud wrtho i mai ewyllys Duw oedd y trychinebau hyn. Des i i’r casgliad fod Duw yn ddideimlad ac yn annheg. Yr unig reswm wnes i ddim lladd fy hun oedd am nad oedd ’da fi ffordd o’i wneud.

Oherwydd mod i’n ddall, oedd hi’n hawdd cymryd mantais ohono i. A phan o’n i’n fachgen, ces i fy ngham-drin yn rhywiol sawl gwaith. Wnes i erioed ddweud wrth neb oherwydd o’n i ddim yn meddwl byddai ots ’da nhw. Prin oedd pobl yn siarad â fi, a do’n i ddim yn siarad â neb. O’n i’n cadw fy hun i fy hun ac yn isel ofnadwy; do’n i ddim yn trystio neb.

SUT NEWIDIODD Y BEIBL FY MYWYD:

Yn fy arddegau cynnar, daeth dau o Dystion Jehofa (cwpl priod) ata i yn ystod amser egwyl yn yr ysgol. Roedd un o’r athrawon, oedd yn cydymdeimlo â fy sefyllfa, wedi gofyn iddyn nhw ddod i ngweld i. Dywedon nhw wrtho i am addewid y Beibl y byddai’r meirw yn cael eu hatgyfodi ac y byddai pobl ddall yn gweld eto un diwrnod. (Eseia 35:5; Ioan 5:28, 29) O’n i’n hoffi beth o’n i’n ei ddysgu, ond oedd hi’n anodd iawn imi sgwrsio â nhw oherwydd o’n i ddim wedi arfer siarad. Ond er fy mod i’n swil iawn, dalion nhw ati yn garedig ac yn amyneddgar i ymweld â fi i ddysgu fi am y Beibl. Cerddodd y cwpl hwn fwy na chwe milltir (10 km) a thros fynydd i gyrraedd fy nhref.

Gwnaeth fy hanner brawd eu disgrifio nhw imi a dweud eu bod nhw wedi gwisgo’n dwt ond doedd ganddyn nhw ddim llawer yn faterol. Ond, roedden nhw wastad yn dangos diddordeb personol yno i, gan ddod ag anrhegion bach imi. O’n i’n teimlo mai dim ond gwir Gristnogion fyddai’n dangos y fath hunanaberth.

Wnes i astudio’r Beibl gyda help cyhoeddiadau braille. Er fy mod i’n deall yn iawn beth o’n i’n ddysgu, ar yr ochr emosiynol roedd rhai pethau yn anodd imi eu derbyn. Er enghraifft, ces i drafferth credu bod Duw yn fy ngharu i fel unigolyn a bod eraill yn gallu teimlo’r un fath amdana i. O’n i’n deall pam mae Jehofa yn caniatáu drygioni ar hyn o bryd, ond o’n i’n ei chael hi’n anodd ei ystyried fel Tad gwirioneddol gariadus. *

Fesul tipyn, gwnaeth yr hyn o’n i’n ei ddysgu o’r Ysgrythurau fy helpu i newid fy safbwynt. Er enghraifft, wnes i ddysgu bod Duw yn cydymdeimlo’n ddwys â’r rhai sy’n dioddef. Wrth gyfeirio at ei addolwyr oedd yn cael eu cam-drin, dywedodd Duw: “Dw i wedi gweld sut mae fy mhobl i’n cael eu cam-drin . . . dw i’n teimlo drostyn nhw.” (Exodus 3:7) Pan ddes i i werthfawrogi rhinweddau tyner Jehofa, ces i fy nghymell i gysegru fy mywyd iddo. Ym 1998, ces i fy medyddio yn un o Dystion Jehofa.

Gyda’r brawd roddodd gartref newydd imi

Tua blwyddyn ar ôl imi gael fy medyddio, es i ar gwrs i’r deillion ger dinas Escuintla. Cafodd henuriad yn y gynulleidfa leol wybod am yr heriau o’n i’n eu hwynebu i fynychu cyfarfodydd yn y dref o’n i’n byw ynddi. Chi’n gweld, oedd y gynulleidfa agosaf yr ochr arall i’r un mynyddoedd roedd rhaid i’r cwpl eu croesi er mwyn astudio ’da fi, ac oedd y daith honno’n anodd imi. I fy helpu, daeth yr henuriad hwnnw o hyd i deulu o Dystion yn Escuintla oedd yn fodlon fy nghymryd i mewn i’w cartref a fy helpu i fynychu cyfarfodydd y gynulleidfa. Hyd heddiw, maen nhw’n gofalu amdana i fel petawn i’n aelod o’r teulu.

Byddwn i’n gallu adrodd llawer mwy o esiamplau o’r gwir gariad mae’r brodyr a chwiorydd yn y gynulleidfa wedi ei ddangos imi. Gyda’i gilydd, mae’r profiadau hyn yn fy ngwneud i’n gwbl sicr fy mod i, fel un o Dystion Jehofa, yng nghwmni gwir Gristnogion.—Ioan 13:34, 35.

FY MENDITHION:

Dw i ddim bellach yn teimlo’n ddiwerth nac yn ddiobaith. Nawr mae fy mywyd yn llawn pwrpas. Fel gweinidog llawn amser yng ngwaith addysgol Beiblaidd Tystion Jehofa, dw i’n canolbwyntio ar ddysgu gwirioneddau gwerthfawr o’r Beibl i eraill yn hytrach na chanolbwyntio ar fy anabledd. Hefyd, mae ’da fi’r fraint o wasanaethu fel henuriad yn y gynulleidfa a rhoi anerchiadau cyhoeddus Beiblaidd yn y cynulleidfaoedd lleol. Dw i hyd yn oed wedi cael y fraint o roi anerchiadau Beiblaidd mewn cynadleddau rhanbarthol o flaen miloedd o bobl.

Yn rhoi anerchiad gan ddefnyddio fy Meibl braille

Yn 2010, wnes i raddio o’r Ysgol Hyfforddi Gweinidogaethol (sydd bellach yn cael ei galw’n Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas) yn El Salfador. Gwnaeth yr ysgol hon fy mharatoi i ofalu am fy nghyfrifoldebau yn y gynulleidfa yn well. Roedd cael yr hyfforddiant hwn yn gwneud imi deimlo bod Jehofa yn fy ngharu ac yn fy ngwerthfawrogi yn fawr iawn. Mae Ef yn gallu gwneud unrhyw un yn gymwys ar gyfer ei waith.

Dywedodd Iesu: “Mae rhoi yn llawer gwell na derbyn.” (Actau 20:35) Heddiw, galla i ddweud mod i’n wirioneddol hapus, ac er nad o’n i erioed yn meddwl byddai’n bosib, bellach dw i’n teimlo mod i’n gallu helpu eraill.

^ Par. 13 Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pham mae Duw yn caniatáu drygioni, gweler pennod 11 y llyfr Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl? a gyhoeddir gan Dystion Jehofa.