Neidio i'r cynnwys

Ai Cwlt Yw Tystion Jehofa?

Ai Cwlt Yw Tystion Jehofa?

 Nac ydyn, nid cwlt yw Tystion Jehofa. Yn hytrach rydyn ni’n Gristnogion sydd yn gwneud ein gorau i ddilyn yr enghraifft a osododd Iesu Grist ac i fyw yn unol â’i ddysgeidiaethau.

Beth yw cwlt?

 Mae ystyron amryw i’r term “cwlt,” yn dibynnu ar y person. Gan dderbyn hynny, ystyriwch ddwy o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o adnabod cwlt a pham nad ydyn nhw’n berthnasol i ni.

  •   Mae rhai yn gweld cwlt fel crefydd o’r newydd neu’n un ansafonol. Nid yw Tystion Jehofa wedi ffurfio crefydd o’r newydd. I’r gwrthwyneb, rydyn ni’n patrymu ein haddoliad ar enghraifft a dysgeidiaethau Cristnogion y ganrif gyntaf sydd wedi eu cofnodi yn y Beibl. (2 Timotheus 3:​16, 17) Fe gredwn ni mai Ysgrythur Sanctaidd sydd yn awdurdodi ar yr hyn sydd yn safonol ynglŷn ag addoliad.

  •   Mae rhai yn gweld cwlt fel sect grefyddol beryglus sydd â bod dynol yn ben iddo. Nid yw Tystion Jehofa yn edrych at unrhyw unigolyn fel eu harweinydd. Yn hytrach rydyn ni’n cadw at y safon a ddarparodd Iesu i’w ddilynwyr pan ddywedodd ef: “Un meistr sydd gynnoch chi, a’r Meseia ydy hwnnw.”​—Mathew 23:10.

 Yn bell o fod yn gwlt peryglus, mae Tystion Jehofa yn ymarfer crefydd sydd yn fuddiol iddyn nhw ac i eraill yn y gymuned. Er enghraifft, mae ein gweinidogaeth wedi helpu llawer o bobl i oresgyn arferion niweidiol fel camddefnydd o gyffuriau ac alcohol. Yn ogystal, rydyn ni’n cynnal gwersi llythrennedd ledled y byd, sydd wedi dysgu miloedd sut i ddarllen ac ysgrifennu. Hefyd rydyn ni bob amser yn brysur yn darparu cymorth ar adeg trychinebau. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddylanwadu’n bositif ar eraill, fel gorchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr.​—Mathew 5:​13-​16.