Neidio i'r cynnwys

Ydy Tystion Jehofa yn Gwahardd Ffilmiau, Llyfrau, neu Ganeuon Penodol?

Ydy Tystion Jehofa yn Gwahardd Ffilmiau, Llyfrau, neu Ganeuon Penodol?

 Nac ydyn. Nid yw ein cyfundrefn yn adolygu ffilmiau, llyfrau, na chaneuon penodol er mwyn creu rheolau. Pam ddim?

  Mae’r Beibl yn annog pawb i ddysgu sut i ‘wahaniaethu rhwng y drwg a’r da.‘—Hebreaid 5:14.

  Mae’r Beibl yn cynnwys egwyddorion sy’n helpu Cristnogion i ddewis adloniant da. a Fel ym mhob agwedd o’n bywydau, ein nod yw ‘gwneud beth sy’n plesio’r Arglwydd.’​—Effesiaid 5:10.

  Mae’r Beibl yn dysgu bod gan ben y teulu rywfaint o awdurdod, felly efallai fe fydd pen y teulu yn dewis gwahardd adloniant penodol yn y cartref. (1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 6:1-4) Ond y tu allan i’r teulu, nid oes gan neb yr hawl i ddweud wrth eraill yn y gynulleidfa pa ffilmiau, caneuon, neu artistiaid sy’n annerbyniol.​—Galatiaid 6:5.

a Er enghraifft, mae’r Beibl yn condemnio ysbrydegaeth, anfoesoldeb rhywiol, a thrais.​—Deuteronomium 18:10-13; Effesiaid 5:3; Colosiaid 3:8.